Ymateb da gan Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae batwyr agoriadol Morgannwg wedi gwneud dechrau da wrth fynd ar ôl cyfanswm enfawr Caerlŷr o 500 yn eu batiad cyntaf.
Ar ddiwedd ail ddiwrod y chwarae, roedd Morgannwg wedi cyrraedd 126 heb golled, gyda Gareth Rees a Jaques Rudolph yn cyrraedd hanner cant yr un.
Roedd y tîm cartref wedi dechrau'r ail ddiwrnod ar 221 am bedair wiced, ond fe aeth Niall O'Brien ymlaen i gyrraedd 133 cyn colli'i wiced ac fe ddaeth cyfraniadau gwerthfawr gan Josh Cobb (63), Rob Taylor (63) a Jigar Naik (59 hfa).
Yn amlwg mae llain Grace Road yn ffafrio batwyr ac fe wnaeth Rees a Rudolph fanteisio ar hynny.
Erbyn diwedd y chwarae ddydd Llun roedd Rees wedi cyrraedd 53, a Rudolph wedi taro 11 pedwar ac un chwech wrth sgorio 63.
Pencampwriaeth y Siroedd - Adran 2 :-
Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 500 (O'Brien 133, Cobb 63, Taylor 63, Naik 59 h.f.a.)
Morgannwg (batiad cyntaf) = 126-0 (Rees 53 h.f.a., Rudolph 63 h.f.a.)