Trigolion yn gorfod gadael tŷ wedi tân
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i drigolion adael pedwar tŷ yn ardal Wrecsam nos Lun wedi i dân gynnau mewn sied.
Deellir bod silindrau nwy yn y sied yn First Avenue, Gwersyllt.
Cafodd dau griw o ddiffoddwyr eu gyrru i'r digwyddiad ar ôl derbyn galwad am 6:57yh.
Fe gafodd dau berson driniaeth ocsigen ar ôl iddyn nhw ddiodde' o effeithiau anadlu mwg.
Mae ymchwiliad i achos y tân eisoes wedi dechrau.