Dominic Dale yn wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Dominic Dale wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wedi iddo guro Michael Wasley brynhawn Llun.
Roedd ond angen ennill un ffrâm ddydd Llun wrth iddo orffen y sesiwn flaenorol 12-4 ar y blaen.
Yn y Crucible yn Sheffield llwyddodd Dale i ennill y ffrâm olaf o 64-42.
Dyma'r tro cyntaf yn ei yrfa i Dale gyrraedd rownd yr wyth olaf mewn cystadleuaeth fawr.
Bydd yn wynebu Barry Hawkins yn y rownd nesaf ddydd Mawrth.
Doedd dim stori gystal i'r Cymro arall yn yr ail rownd.
Fe gollodd Ryan Day i un o'r ffefrynnau, Judd Trump, o 13-7.
Straeon perthnasol
- 24 Ebrill 2014