Galw am ymddiswyddiad pennaeth Comisiwn
- Cyhoeddwyd

Mae dau wleidydd o Gymru wedi galw am ymddiswyddiad pennaeth y Comisiwn Etholiadol am ganiatáu i enw'r milwr Lee Rigby gael ei ddefnyddio i hybu plaid asgell dde eithafol.
Bydd Britain First yn defnyddio'r geiriau "Remember Lee Rigby" ar bapurau pleidleisio yng Nghymru yn etholiadau Ewrop ym mis Mai.
Mae Geraint Thomas AS a Simon Thomas AC wedi galw ar Jenny Watson i adael ei swydd.
Mae Ms Watson wedi ymddiheuro am y digwyddiad gan ddweud "na ddylai fyth fod wedi cael ei ganiatáu".
Ymchwiliad seneddol
Cafodd Lee Rigby ei lofruddio wrth ddychwelyd i'w farics yn Woolwich yn Llundain ar Fai 22, 2013.
Fe gafodd dau ddyn - Michael Adebolajo a Michael Adebowale - eu carcharu am ei lofruddio yn dilyn achos yn llys yr Old Bailey.
Mae'r Comisiwn Etholiadol nawr yn paratoi am ymchwiliad seneddol wedi iddyn nhw ganiatáu i enw Mr Rigby gael ei ddefnyddio ar bapurau pleidleisio gan Britain First.
Daw hyn wedi i weinidog swyddfa'r cabinet Greg Clark ysgrifennu at lefarydd Tŷ'r Cyffredin John Bercow yn gofyn am ymchwilio i'r camgymeriad er mwyn "atal y fath beth rhag digwydd eto".
Dywedodd Mr Bercow ei fod "yn dymuno gweld ymchwiliad annibynnol, a hynny ar frys".
Ychwanegodd y Comisiwn Etholiadol eu bod wedi ymddiheuro i deulu Lee Rigby gan ddweud na fydd y disgrifiad yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol, ond ei bod yn rhy hwyr i newid papurau pleidleisio mewn pryd i'r etholiad ar Fai 22.
Cymru yn unig
Ond dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, y dylai cadeirydd y Comisiwn Etholiadol ymddiswyddo am y camgymeriad. Ategodd AC Ceredigion Simon Thomas yr alwad.
Mae Britain First yn disgrifio ei hun fel "plaid wleidyddol wladgarol a street defence organisation" ac mae wedi enwebu pedwar aelod i sefyll yn yr etholiad yng Nghymru.
Yng Nghymru yn unig fydd y slogan yn ymddangos ar y papurau pleidleisio - mae'r blaid yn defnyddio disgrifiad arall yn yr Alban a dydyn nhw ddim yn ymgeisio yn Lloegr yn yr etholiad hwn.
Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr a phleidiau sy'n sefyll yn Etholiadau Senedd Ewrop ar ddydd Iau, Mai 22, i'w gweld yma.
Straeon perthnasol
- 27 Ebrill 2014
- 25 Ebrill 2014