Enwau babis Cymru 2013 - 2014

  • Cyhoeddwyd

Tomos, Elis, Jac, Efa a Mari yw rhai o enwau babis mwyaf poblogaidd gwrandawyr Radio Cymru yn ôl cyfarchion gafodd eu hanfon i'r orsaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Mai 2013 - Ebrill 2014.)

Babi newydd-anedig

Isod mae pedwar tabl gyda'r enwau cyntaf a'r ail enwau mwyaf poblogaidd o'r rhai sydd wedi cael eu hanfon i mewn at raglenni Dafydd a Caryl tan Chwefror 2014 a rhaglen Dylan Jones fis Mawrth ac Ebrill eleni.

Roedd hi'n arfer misol ar raglen Dafydd a Caryl i ddathlu geni babanod Cymru gydag artist gwahanol yn cyfansoddi cân yn cyfeirio at fabis y mis hwnnw.

Erbyn hyn ar raglen Dylan Jones bob bore ar BBC Radio Cymru, mae pawb sy'n cysylltu â'r rhaglen i gyfarch babi newydd yn derbyn bib Dylan Jones.

Disgrifiad o’r llun,
Dyma'r dyluniad ar fib rhaglen Dylan Jones

Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - BECHGYN

  • 1 Tomos (10)
  • =1 Elis / Ellis (10)
  • 2 Jac (9)
  • 3 Osian (8)
  • 4 Gruffudd / Gruffydd (7)
  • 5 Ioan (6)
  • =5 Ifan (6)
  • =5 Guto (6)
  • =5 Caio (6)
  • =5 Efan (6)
  • =5 Hari / Harri (6)

Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - MERCHED

  • 1 Efa (7)
  • =1 Mari (7)
  • 2 Elin (6)
  • 3 Elsi (5)
  • =3 Cadi (5)
  • =3 Lili / Lily (5)
  • 4 Mali (4)
  • =4 Beca / Becca (4)
  • =4 Ela (4)
  • =4 Elen (4)
  • =4 Erin (4)
  • =4 Lois (4)

Ail enwau mwyaf poblogaidd - BECHGYN

  • 1 Wyn (9)
  • =1 Rhys (9)
  • =1 Llywelyn / Llewelyn (9)
  • 2 Llyr (5)
  • =2 Jac (5)
  • =2 Ifan (5)
  • =2 Hedd (5)
  • 3 William (4)
  • =3 Elis / Ellis (4)
  • =3 Gwilym (4)
  • =3 Dafydd (4)

Ail enwau mwyaf poblogaidd - MERCHED

  • 1 Fflur (11)
  • 2 Mai (8)
  • 3 Mair (6)
  • 4 Grug (5)
  • =4 Haf (5)
  • =4 Wyn (5)
  • 5 Lili (4)
  • =5 Alaw (4)
  • 6 Medi (3)
  • =6 Elin (3)
  • =6 Dafydd (3)
  • =6 Ann (3)
  • =6 Angharad (3)

Mae na gyfanswm o 202 o enwau bechgyn a 191 o enwau merched, gyda rhai enwau unigrwy hyfryd yn sefyll allan. Brython, Ceulan, Dulas a Gwrhyd i fechgyn a'r merched Arria, Blathnaid a Syri.