Y Gleision: Syrfëwr yn rhoi tystiolaeth
- Published
Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed tystiolaeth gan syrfëwr wnaeth gynnal arolwg o lofa'r Gleision yn dilyn marwolaeth pedwar glöwr ym mis Medi 2011.
Dywedodd Alcwyn Squires ei fod o'r farn nad oedd hi'n bosib fod arolwg wedi ei gynnal o'r safle lle'r oedd y glowyr yn gweithio adeg y ddamwain.
Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.
Mae rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
'Dim arolwg'
Clywodd y llys fod Mr Squires wedi ymweld â'r lofa am y tro cyntaf ar Fedi 17, gan dynnu lluniau a chynnal arolwg.
Yna ar Fedi 27 a 28, fe aeth i gynnal arolwg o'r prif ddrifft a safle H1, lle bu'r dynion yn gweithio.
"Doedd yna fawr o uchder yn H1," meddai Mr Squires.
Dywedodd nad oedd arolwg wedi ei gynnal o'r safle lle'r oedd y glowyr yn gweithio, a'r fan lle y llifodd y dŵr i'r pwll.
"Nid wyf yn credu, oherwydd yr uchder, y byddai hynny wedi bod yn bosib."
Wrth gael ei groesholi gan Prashnant Popat QC ar ran cwmni MNS, dywedodd Mr Squires fod yna ychydig o anghysondeb rhwng ei arolwg o, a'r cynllun rheoli oedd wedi ei anfon at yr Awdurdod Glo.
Gofynnwyd i Mr Squires a oedd o wedi cynnal arolwg o lwybrau dŵr o dan ddaear.
"Nag oeddwn," meddai.
Dywedodd nad oedd chwaith wedi mesur trwch y glo.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai hynny wedi ei gynorthwyo i fesur y safle, a'r potensial i ddal dŵr, atebodd "pe bai'r wybodaeth yna gennych, byddai'r ffigyrau yn fwy cywir."
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Ebrill 2014
- Published
- 25 Ebrill 2014
- Published
- 24 Ebrill 2014
- Published
- 17 Ebrill 2014