Cyhoeddi sêr cyngerdd agoriadol yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Catrin Finch
Disgrifiad o’r llun,
Mae Catrin Finch yn cael ei hadnabod fel un o delynorion mwya' blaenllaw y byd

Y delynores Catrin Finch fydd un o'r sêr yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd eleni, nos Sul, Mai 25.

Cyngerdd nos Sul fydd yn cychwyn wythnos gyfan o weithgareddau'r Eisteddfod ar faes y brifwyl yn y Bala.

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Mae hi'n fraint denu enw mor fawr â Catrin Finch i'n Cyngerdd Agoriadol ym Meirionnydd.

"Mae hi'n esiampl o'r llwyddiant y gall pob un o bobl ifanc talentog y brifwyl geisio anelu amdano.

"Bydd y noson yn llawn cynnwrf wrth glywed seiniau pur y delyn, lleisiau hudolus a hwyl ac afiaith dawnswyr o bob cwr o Gymru. Mae'r ardal gyfan yn edrych ymlaen at groesawu Cymru benbaladr i Feirionnydd."

Talentau lleol

Yn ymuno â'r sêr ar y llwyfan fydd y bachgen lleol o'r Bala, Luke McCall. Ar hyn o bryd mae Luke yn astudio ar gyfer gradd ôl-radd mewn Theatr Cerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae newydd gael ei enwi'n Ganwr Ifanc y Flwyddyn Theatr Cerdd Cymru yng Ngwobr Cymdeithas Adeiladu Principality 2014.

Bydd un arall o sêr Meirionnydd yn rhannu'r llwyfan yn y cyngerdd agoriadol, y canwr-gyfansoddwr o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, Gai Toms.

Mae'n gyn-aelod o'r band Anweledig a ganodd am y glaw yn Blaena', ac ef hefyd oedd crëwr 'Mim Twm Llai'.

Yn ogystal, bydd dau fand ifanc, lleol yn camu i'r llwyfan - Jessop a'r Sgweiri a Swnami.

Ifan Jones Evans fydd yn cadw trefn ar y noson, gan groesawu'r diddanwr Eilir Jones, y feiolinydd Billy Thompson, dawnswyr o Adran Amlwch a Choedpoeth yn ogystal â dawnsiwr unigol o Gaerdydd, Tom Felix-Richards i'r llwyfan.

Un person sy'n gyfforddus iawn ar lwyfan yr Urdd yw enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel y llynedd, Chloe Angharad Bradshaw, fydd hefyd yn perfformio ar y noson.