Ymchwiliad i ymosodiad ar ferch 13 oed

  • Cyhoeddwyd
Parc y Cocyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddigwyddiad ym Mharc y Cocyd

Mae heddlu'n Abertawe yn ymchwilio i honiadau bod rhywun wedi ymosod yn rhywiol ar ferch 13 oed.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yn ardal Parc y Cocyd oddeutu 8.45pm nos Lun.

Fe ddywedodd y Ditectif Arolygydd Darren George fod "ymchwiliad i honiad difrifol tu hwnt yn parhau, ac mae'r lleoliad yn cael ei archwilio.

"Mae ymholiadau o ddrws i ddrws, CCTV a phrofion fforensig ar droed, a swyddogion arbenigol yn gofalu am y ferch."

Mae'r ymosodwr honedig yn ddyn gwyn, tenau, o bosib yn ganol-oed, oddeutu pum troedfedd pum modfedd o daldra, gyda gwallt cyrliog a mwstash bychan.

Roedd o'n gwisgo trowsus tracwisg du a siaced lwyd.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhywun welodd ddyn tebyg i hyn yn yr ardal cyn neu ar ôl y digwyddiad, i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.