£7.5m i fusnesau technoleg
- Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa newydd gwerth £7.5 miliwn, i'w roi i hyd at 50 o fusnesau technoleg newydd sy'n tyfu'n gyflym.
Y nod yw defnyddio cronfa newydd Sbarduno Technoleg Cymru sy'n para am bum mlynedd i helpu busnesau newydd, is-gwmnïau prifysgolion a chwmnïau eiddo deallusol baratoi eu cynhyrchion a'u technolegau i'w cyflwyno i'r farchnad.
Bydd y gronfa'n cael ei rheoli ar sail fasnachol gan Cyllid Cymru i fuddsoddi rhwng £50,000 a £150,000 o ecwiti.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog Economi llywodraeth Cymru: "Bydd y Gronfa newydd hon yn helpu busnesau ar y dechrau fel hyn gan fod cyfalaf yn beth prin iawn bryd hynny, fel y nodwyd yn Strategaeth Arloesi Cymru.
'Denu busnesau blaengar'
"Bydd yn buddsoddi mewn busnesau technoleg newydd ac is-gwmnïau o brifysgolion sy'n methu â chael help ariannol i gyflwyno eu heiddo deallusol i'r farchnad.
"Rydym eisiau cynyddu nifer y busnesau technoleg sydd yng Nghymru sy'n llwyddiannus ac sydd â chyfoeth o ran eiddo deallusol, a'u helpu i dyfu.
"Mae'n rhaid i ni hefyd ddenu busnesau technoleg blaengar y dyfodol i Gymru, cwmnïau fydd yn masnachu ar lefel ryngwladol, yn cryfhau economi Cymru ac yn creu swyddi newydd lefel uchel.
100 o swyddi
"Mae gan Cyllid Cymru eisoes enw da yn buddsoddi mewn busnesau technoleg newydd-anedig a nawr, gall gefnogi mwy ohonyn nhw ar adeg dyngedfennol yn eu datblygiad.
"Bydd y cwmnïau hyn, wrth iddyn nhw dyfu, yn gallu manteisio hefyd ar y cysylltiadau sydd gan Cyllid Cymru â chyd-fuddsoddwyr preifat a sefydliadol."
Dros y pum mlynedd nesaf, mae gan y gronfa'r potensial i greu dros 100 o swyddi lefel uchel a gellir defnyddio arian o'r gronfa gydag unrhyw fath arall o gymorth ariannol y mae llywodraeth Cymru yn ei gynnig er mwyn helpu busnesau arloesol i dyfu.
Bydd modd ymgeisio am arian o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru o 1 Mehefin 2014 ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2014