Galw am roi ddiffibrilwyr mewn adeiladau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Diffibrilydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae diffibrilwyr yn rhoi sioc drydanol all ail-ddechrau curiad y galon

Bydd deiseb yn cael ei thrafod yn y Senedd ddydd Mawrth yn galw am roi offer all achub bywydau ym mhob adeilad cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r ddeiseb yn galw am roi diffibrilwyr (defibrillators), all achub bywyd rhywun sy'n cael trawiad ar y galon, mewn mannau cyhoeddus.

Mae diffibrilwyr yn gweithio drwy roi sioc drydanol i galon rhywun sy'n cael trawiad, gan ail-ddechrau curiad y galon.

Mae un sy'n ymgyrchu dros gael yr offer wedi ei ddisgrifio fel "offer all achub bywyd".

Jack Thomas

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Jack Thomas yn ddi-rybudd yn 2012

Bu farw mab June Thomas, Jack, yn ddirybudd yn 2012. Cafodd diffibrilydd ei ddefnyddio arno, ond nid yw achos ei farwolaeth wedi ei gadarnhau.

Roedd Jack Thomas, 15 o Oakdale yn Sir Caerffili, yn fachgen ifanc oedd wedi cynrychioli Cymru mewn taekwondo, ac yn chwarae rygbi a chriced.

Bu farw ym mreichiau ei gariad ar ôl iddo fod yn gwylio gêm rygbi ar y teledu.

Mae ei fam wedi bod yn ymgyrchu dros gael diffibrilwyr mewn ysgolion, ac mae hi hefyd yn cefnogi'r ddeiseb yma.

Dywedodd wrth BBC Radio Wales: "Mae deddfau yng Nghymru yn dweud bod rhaid cael diffoddwyr tân, ond does dim deddf sy'n dweud bod angen diffib.

"Mae siawns uwch y bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon nag y bydd adeilad yn mynd ar dân."

Dywedodd nad oes angen hyfforddiant i ddefnyddio'r offer gan eu bod yn rhoi canllawiau, a dydyn nhw ddim yn rhoi sioc os nad oes eu hangen.

Ychwanegodd: "Mae hwn yn offer all achub bywydau."