Gweinidog yn galw am ymddiswyddiad
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths wedi dweud y dylai cadeirydd y Comisiwn Etholiadol ymddiswyddo os oes tystiolaeth bod y corff yn gyfrifol am adael i enw Lee Rigby ymddangos ar bapur pleidleisio.
Daeth i'r amlwg dros y penwythnos bod plaid Britain First yn defnyddio'r geiriau "Remember Lee Rigby" ar eu papurau pleidleisio yng Nghymru ar gyfer etholiadau Ewrop ym mis Mai.
Mae gwleidyddion eraill hefyd wedi galw ar Jenny Watson i adael ei swydd.
Mae cadeirydd y comisiwn, Jenny Watson, wedi ymddiheuro, gan ddweud na ddylai'r frawddeg wedi cael ei chaniatáu.
'Ofnadwy'
Dywedodd Ms Griffiths ei bod hi'n "ofnadwy" bod y blaid yn defnyddio "digwyddiad trasig y llynedd yn y ffordd yma".
"Cefais wybod amdano dros y penwythnos... yn amlwg mae hwn yn fater i lywodraeth y DU, ond Cymru yn unig fydd yn cael ei effeithio," meddai.
"Gallaf sicrhau aelodau fy mod wedi ysgrifennu at Greg Clark, y gweinidog yn y cabinet sy'n gyfrifol, gan roi fy marn y dylai rhywbeth gael ei wneud cyn gynted â phosib."
Dywedodd bod y penderfyniad i ganiatáu'r slogan ar y papur pleidleisio yn "peri loes" i deulu Lee Rigby.
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn siŵr beth all gael ei wneud mewn cyfnod mor fyr. Ond mae fy swyddogion wedi cwrdd â swyddogion Swyddfa'r Cabinet ddoe i gynnig unrhyw gymorth y gallwn ni.
"Yn amlwg mae cadeirydd y Comisiwn Etholiadol wedi cyfaddef na ddylai hyn wedi digwydd. Roedd y methiant yn ei sefydliad hi, a dwi'n meddwl bod angen iddi hi ystyried os oedd hynny oherwydd methiannau mewn rheolaeth gorfforaethol, ac ystyried ei lle yn y swydd."
Ymddiheuriad
Mae'r comisiwn wedi ymddiheuro am ganiatáu i'r frawddeg gael ei roi ar y papur pleidleisio.
Dywedodd cadeirydd y comisiwn, Jenny Watson: "Mae'n ddrwg iawn gan y Comisiwn Etholiadol am y loes sydd wedi ei achosi ac rydw i wedi ymddiheuro i deulu Lee Rigby.
"Ni ddylai'r disgrifiad roedd Britain First wedi ei gofrestru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai, 'Cofiwch Lee Rigby', fyth fod wedi cael ei ganiatáu.
Cafodd y Ffiwsiliwr Rigby, o Middleton ger Manceinion, ei lofruddio wrth iddo ddychwelyd i'w farics yn Woolwich yn ne-ddwyrain Llundain ar Fai 22, 2013.
Cafwyd Michael Adebolajo, 29, a Michael Adebowale, 22, yn euog o'i lofruddiaeth wedi achos yn llys yr Old Bailey.
Cafodd Adebolajo ei ddedfrydu i garchar am oes ac mae'n apelio yn erbyn y ddedfryd. Cafodd Adebowale ei ddedfrydu i isafswm o 45 mlynedd yn y carchar.
Straeon perthnasol
- 28 Ebrill 2014
- 27 Ebrill 2014