Ymgynghori ar gynllun ysgolion Dinas Powys

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Babanod Dinas PowysFfynhonnell y llun, Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,
Ysgol Fabanod Dinas Powys, mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu ei chyfuno gyda Ysgol Iau Murch

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau ymgynghori ar gynllun i greu ysgol gynradd newydd ar gyfer Dinas Powys ym mis Mehefin.

Y bwriad yw uno Ysgol Fabanod Dinas Powys ac Ysgol Iau Murch.

Byddai'r newid yn gweld Ysgol Iau Murch yn cau ond addysg yn parhau ar y safle.

Bydd y Corff Llywodraethol ac athrawon yr ysgolion yn cael eu huno.

Mae'r cynnig wedi'i ysgogi gan benderfyniad pennaeth Ysgol Murch, Derek Thomas, i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Ar hyn o bryd mae disgyblion yn mynychu Ysgol Fabanod Dinas Powys tan flwyddyn 2, cyn cael eu trosglwyddo i Ysgol Murch.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Elmore, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant bod uno'r ysgolion yn dod a nifer o fanteision i'r disgyblion yn ogystal â dileu'r broblem o symud o ysgol fabanod i ysgol iau.

Meddai: "Rwy'n hyderus y bydd ysgol wedi'i chyfuno yn parhau i gyrraedd safonau uchel."

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar Fehefin 2 ac yn parhau am wyth wythnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol