Cyngor Gwynedd: Casglu biniau bob tair wythnos

Biniau sbwriel ac ailgylchu
Image caption Cyngor Gwynedd yw'r cynta' yng Nghymru i gasglu sbwriel pob tair wythnos

Cyngor Gwynedd fydd y cynta' yng Nghymru i gwtogi ar gasgliadau sbwriel i unwaith pob tair wythnos.

Ar hyn o bryd mae bagiau du yn cael eu casglu ddwywaith y mis, ond fe gymeradwyodd y cabinet y newidiadau mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno yn ardal Dwyfor ym mis Hydref, gyda Meirionnydd ac Arfon i ddilyn yn 2015.

Mae disgwyl i'r cynllun arbed £350,000

Trefn tair wythnos

Yn ôl y cyngor, mae'r ffaith eu bod yn casglu biniau ailgylchu a gwastraff bwyd yn wythnosol yn cyfiawnhau cyflwyno trefn tair-wythnos ar gyfer sbwriel.

Mae'n debyg mai Gwynedd yw'r ail gyngor yn y DU i gyflwyno trefn o'r fath. Mae Falkirk yn Yr Alban eisoes yn casglu sbwriel pob tair wythnos.

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gyngor arall yng Nghymru na Lloegr oedd wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.

Mae rhai sy'n gwrthwynebu'r cynllun yn poeni am lygod, arogleuon a'r ffaith y gallai biniau fod yn rhy drwm, ond mae'r cyngor yn mynnu bod modd delio gyda'r pryderon hyn, gan y bydd y casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd yn parhau yn wythnosol, a gwastraff gardd yn cael ei gasglu pob pythefnos.

Yn ôl cynghorwyr, does dim rheswm pam na all y cynllun weithio, yn enwedig os yw pobl yn rhoi gwastraff bwyd yn y bin cywir.

Bydd biniau mwy yn cael eu darparu os oes chwech neu fwy o bobl yn byw mewn tŷ, ac er gallai problemau godi gyda'r miloedd o fyfyrwyr sy'n byw ym Mangor, mae'r cyngor wedi addo y byddan nhw'n gwneud popeth posib i ddelio â'r sefyllfa.

Targedau

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i gynghorau ailgylchu neu gompostio o leia' 52% o'u gwastraff ar hyn o bryd, gyda'r canran yn codi i 58% y flwyddyn nesa'. Os na fydd cynghorau'n cwrdd â thargedau tirlenwi, yna byddan nhw'n gorfod talu dirwyon sylweddol.

Dywedodd Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Roberts mai dim ond tua hanner o bobl y sir sy'n defnyddio gwasanaethau casglu ail-gylchu a gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

"Fel Cyngor mae'n rhaid i ni rŵan gymryd camau i ddarbwyllo'r trigolion hyn sy'n parhau i daflu gwastraff gellir cael ei ail-gylchu neu ei gompostio yn eu bin olwyn gwastraff gweddilliol i ddechrau defnyddio'r gwasanaeth casglu ail-gylchu gwastraff bwyd wythnosol cyfleus," meddai.

"Yn ogystal ag osgoi dirywion ariannol enfawr, mae'r ffaith fod toriadau mewn cyllid gan y Llywodraeth yn golygu fod Cyngor Gwynedd yn wynebu bwlch ariannol o oddeutu £50 miliwn rhwng rŵan a 2017/18 a bydd gweithredu'r newidiadau hyn rŵan yn cyflawni arbediad ariannol blynyddol o oddeutu £350,000 i alluogi'r Cyngor osgoi toriadau poenus i wasanaethau eraill."

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Amgylchedd, Russell George AC, wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Gwynedd.

"O dan Lafur, mae trethdalwyr Cymraeg yn talu mwy i dderbyn llai," meddai.

"Bydd biniau gorlawn oherwydd casgliadau llai aml yn cynyddu achosion o sbwriel yn cael ei dipio, yn annog plâu ac yn cynyddu'r sbwriel ar strydoedd Cymru.

"Dylai gweinidogion Llafur fod wedi galluogi i gynghorau Cymru beidio â chynyddu treth y cyngor i deuluoedd sy'n gweithio'n galed. Yn hytrach dylid gweithio gydag awdurdodau lleol i roi gwerth am arian."

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru bod angen i Gyngor Gwynedd sicrhau eu bod wedi ymgynghori yn ddigonol cyn gwneud newidiadau.

"Dwi'n ymwybodol o broblemau yn barod ym Mangor lle mae tai gyda nifer o breswylwyr, a bydd y newidiadau yma yn creu problemau mwy o fewn tai mwy gyda'i gwastraff ychwanegol," meddai Aled Roberts AC.

"Mae tair wythnos yn amser hir i fagiau fod yn aros.

"Mae angen i breswylwyr lleol fod yn gefnogol cyn unrhyw newidiadau i wasanaethau gwastraff."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.