Parc 'angen cadw cyfrifoldeb cynllunio' medd Prif Weithredwr
- Cyhoeddwyd

Wrth i Emyr Williams, prif weithredwr newydd Parc Cenedlaethol Eryri, ddechrau ar ei swydd ddydd Iau, mae Cymru Fyw wedi bod yn ei holi.
Beth ydi'r flaenoriaeth i chi wrth gychwyn ar y swydd?
Y flaenoriaeth ydi ein bod yn parhau i gyflawni fel Awdurdod ac yn draddodiadol mi rydan ni wedi gwneud hynny drwy weithio mewn partneriaeth gyda chyrff a sectorau eraill, er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru, y sector amaeth, cadwraeth a hamdden.
Y flaenoriaeth arall i mi ydi sicrhau ein bod yn parhau i fod yn arloesol ym meysydd amgylchedd, hamdden a threftadaeth.
Beth ydi'r prif sialensau sydd yn wynebu'r Parc?
Mae ganddo ni sialensiau o ran yr holl drafod ar hyn o bryd am ba ffurf mae cyrff cyhoeddus yn eu cymryd yn y dyfodol, ac mae'r drafodaeth yma'n creu ansefydlogrwydd ar hyn o bryd.
Mae Comisiwn Williams ar ailstrwythuro awdurdodau lleol wedi cydnabod fod 'na rôl benodol i barciau cenedlaethol ac mi rydan ni'n gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth yma.
Mae 'na nifer o newidiadau deddfwriaethol ar y gweill hefyd ac mae hyn am fod yn sialens i'r dyfodol - mae 'na nifer o ddeddfau newydd yn mynd i gael eu pasio yn ymwneud â chynllunio, yr amgylchedd, yr amgylchedd hanesyddol, ac fe fydd hyn yn her i'r Awdurdod hefyd yn y dyfodol.
Pa fath o doriadau sydd yn wynebu'r Awdurdod ar hyn o bryd?
'Da ni'n edrych ar doriadau o 14% fel teulu'r parciau yng Nghymru dros ddwy flynedd, sydd gyfystyr ag £872,000 yn Eryri allan o gyllideb o £6 miliwn.
O ganlyniad 'da ni'n gorfod edrych ar godi incwm, lleihau costau a newid safon y gwasanaethau, a hefyd ymateb i lefelau staffio a gorfod gadael i staff fynd yn anffodus. Fydd rhai swyddi gwag ddim yn cael eu llenwi yn ogystal ag ailstrwythuro.
Mae 'na adolygiad o wasanaeth Canolfannau Gwybodaeth yn mynd i gael ei wneud ac fe fydd penderfyniadau anodd i'r Awdurdod ar ddiwedd yr haf. Mae ganddo ni bum canolfan ac fe fydd un yn cau, gydag adolygiad o'r pedwar arall yn cael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf.
Ydi'r Parciau wedi dioddef o broblem gyda'u delwedd yn y gorffennol - gyda'r argraff eu bod efallai ychydig yn llawdrwm neu haearnaidd ar faterion cynllunio a datblygu economaidd o fewn eu ffiniau? Ai delwedd neu realiti ydi'r argraff yma?
Mae 'na dair prif elfen o ran y mater o ddelwedd y parciau - sef cynllunio, twristiaeth a'r economi. 'Da ni fel parc yn perfformio, ond falle nad ydi pobl yn y deall pa mor dda neu wael yr ydan ni'n perfformio o ran cynllunio. Y canran o geisiadau a gafodd eu cymeradwyo dros flwyddyn oedd 84% ar gyfartaledd, ond am ein bod wedi rhoi mwy o bwyslais ar yr agwedd yma mae 'na gynnydd wedi bod o 79.5% yn chwarter cyntaf 2013-14, i fyny i 92% yn chwarter olaf y cyfnod yma.
Mesur arall ydi faint o geisiadau cynllunio sydd yn cael eu cymeradwyo o fewn wyth wythnos. Cyfartaledd 2013 oedd 63% - ond roedd cynnydd mewn perfformiad rhwng 55% yn y chwarter cyntaf i 76% yn y chwarter olaf. O achos ymateb y cyfryngau a delwedd gyffredinol 'da ni wedi canolbwyntio ar y broblem ddelwedd yma.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud yn ddiweddar y dylai pwerau cynllunio parciau cenedlaethol Cymru gael eu cymryd oddi wrthyn nhw. Beth yw eich ymateb i hyn?
Un o gyhuddiadau'r undeb oedd bod y parciau yn gweithredu ar ran twristiaeth yn ormodol, ond nid ni sydd yn marchnata y parciau - ein cyfrifoldeb ni ydi'r isadeiledd, a chyrff eraill sydd yn marchnata twristiaeth y parciau.
Roedd yr undeb yn cwestiynu pam fod angen rôl gynllunio i'r parciau? Mae'r ateb i hynny'n glir. Pan gafodd awdurdodau y parciau eu sefydlu yn dilyn Adroddiad Edwards yn ôl yn y '90au, roedd y rhesymeg dros eu sefydlu'n glir - a tydi'r rhesymeg yma heb newid. Y rheswm dros eu sefydlu oedd bod anghysondeb yn y gorffennol rhwng awdurdodau cynllunio oedd yn gweithredu o fewn ffiniau'r parciau a dwi'n gweld dim byd wedi newid ynglŷn â'r ddadl yma.
Cyhuddiad arall oedd bod y parciau yn gwneud dim i hybu'r economi. Fe wnaeth y parciau Cymreig gomisiynu adroddiad y llynedd ar fudd economaidd y parciau. Casgliad yr adroddiad oedd bod 12 miliwn o ymwelwyr unigryw yn ymweld â'r parciau yn flynyddol ac roedd y gwerth economaidd yn £1 biliwn y flwyddyn.
Gafodd yr adroddiad yma ei gomisiynu o gofio pa ffordd oedd y gwynt gwleidyddol yn chwythu ar hyn o bryd?
Do i raddau, ond maen nhw'n cael eu comisiynu bob rhyw saith i wyth mlynedd. Mae'r parciau'n costio llai na £5 y pen y flwyddyn - ac mae'n bwysig cofio hynny dwi'n meddwl.
Pa mor debygol ydi y bydd y Parciau Cymreig yn gorfod uno yn y dyfodol?
Dwi ddim yn saff iawn o hyn. Mae'r Gweinidog John Griffiths am wneud adolygiad ac rydyn ni'n disgwyl i weld beth fydd cylch gorchwyl yr adolygiad yma yn gynnar yn yr haf. Mae 'na elfen o ansicrwydd ar hyn o bryd, gyda Chomisiwn Williams yn dweud fod angen rhoi ystyriaeth i un awdurdod drwy Gymru, ond ei fod yn bwysig cadw 'identity' pob un o'r 3 parc unigol. Mae 'na gwestiynau diddorol yn mynd i godi yn y dyfodol.
Gyda'r holl drafod am uno, colli swyddi, a cholli grymoedd cynllunio, ydach chi'n teimlo fel eich bod yn gafael yn awenau corf sydd dan warchae?
Mae'n sicr yn gyfnod heriol ond dwi'n bositif iawn am ddyfodol y parciau a bod ganddo ni rôl bwysig i'w chwarae, a does dim angen poeni yn ormodol.
Ydi gwleidyddion yn deall gwaith a natur y parciau cenedlaethol yn ddigonol yn eich barn chi?
Mae 'na wahaniaeth mewn dealltwriaeth rhwng gwleidyddion am y gwaith y mae'r parc yn ei wneud. Er ein bod wedi cael cefnogaeth gan wahanol wleidyddion, mae o i'w weld yn anghyson o fewn y pleidiau, ac yn anghyson rhwng gwleidyddion ac yn ddaearyddol anghyson hefyd. Ond mae ymwybyddiaeth o'r hyn yr ydan ni yn ei wneud wedi gwella hefyd.
Beth ydi'r pwysau ymarferol ar y parciau yn y dyfodol?
Mae 'na bwysau o ddau brif gyfeiriad - pwyslais pobl a phwyslais newid hinsawdd. Gyda glawiadau cyson a mwy trwm, a mwy o bobl yn ymweld, mae 'na newid cymeriad yn yr ardal yn raddol. Gyda hinsawdd wlypach a chynhesach mae problemau fel tyfiant y rhododendron yn mynd i gynyddu hefyd, ac wrth i batrymau amaeth newid fe all hyn olygu problemau gyda rheoli'r ucheldir yn y dyfodol.
Mae perygl i dir uchel gael ei adael ar ôl fel yng nghyfandir Ewrop, a dydyn ni ddim am i weld hyn yn digwydd.
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2014
- 18 Ebrill 2014
- 17 Ebrill 2014
- 7 Mawrth 2014
- 19 Rhagfyr 2013
- 13 Tachwedd 2013