BBC Cymru Fyw

Ymosodiad rhyw: Dim trosedd

Published
image captionBu'r heddlu yn ymchwilio i ddigwyddiad ym Mharc y Cocyd

Yn dilyn ymchwiliad manwl i honiadau o ymosodiad rhyw yn Abertawe nos Lun, mae'r heddlu yn fodlon nad oedd trosedd wedi ei chyflawni mewn gwirionedd.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nad oedden nhw bellach yn chwilio am unrhyw un mewn perthynas â'r mater.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn digwyddiad honedig am 8:45yh nos Lun, ac adroddiadau bod dyn wedi ymosod ar ferch 13 oed ym Mharc Cocyd yn y ddinas.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws, yn ogystal ag astudio lluniau teledu cylch cyfyng a chynnal profion fforensig yn y parc.

Maen nhw nawr yn dweud eu bod wedi cadarnhau na ddigwyddodd unrhyw drosedd mewn gwirionedd.

Straeon perthnasol

  • Ymchwiliad i ymosodiad ar ferch 13 oed