'Angen gwella' amddiffynfeydd yr arfordir
- Cyhoeddwyd

Fe fydd adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher yn dweud bod 47 o argymhellion i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cyhoeddi'r adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn dilyn stormydd difrifol y gaeaf aeth heibio.
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi dweud bod mwyafrif amddiffynfeydd llifogydd Cymru a'r ymateb argyfwng wedi perfformio'n dda.
Ond mae'r adroddiad diweddaraf yn dweud bod stormydd Rhagfyr 2013 a Ionawr 2014 wedi bod yn brawf mawr o'r amddiffynfeydd ar hyd arfordir Cymru.
Gan fod Cymru'n agored iawn i stormydd o'r fath, a bod rhagolygon newid hinsawdd yn dweud y bydd y risg yn cynyddu yn y dyfodol, mae'r asesiad diweddaraf yn canolbwyntio ar y gwaith i wella gallu Cymru i wrthsefyll stormydd o'r fath.
'Paratoi yn well'
Dywedodd Jeremy Parr, pennaeth llifogydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Fe wnaeth stormydd y gaeaf atgoffa pawb o'r difrod y maen nhw'n gallu gwneud i'n cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n heconomi.
"Er i ni ymdopi'n dda y tro hwn, mae'r rhagolygon newid hinsawdd yn awgrymu ein bod yn debyg o weld mwy o dywydd fel hyn yn y dyfodol.
"Ein gobaith yw y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cynorthwyo asiantaethau, awdurdodau a chymunedau sydd dan fygythiad i fedru paratoi yn well pan fydd hyn yn digwydd eto."
Lle i wella?
Dywedodd Alun Davies AC: "Ar y cyfan fe wnaeth yr amddiffynfeydd ymdopi'n dda yn y stormydd diweddar, ond does dim amheuaeth bod y tywydd drwg wedi achosi difrod sylweddol i nifer o'n cymunedau arfordirol.
"Mae'r dystiolaeth wyddonol yn awgrymu y bydd digwyddiadau tywydd o'r fath yn dod yn fwy cyffredin felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i wella gallu'r arfordir i wrthsefyll hyn ond hefyd i wella ein hymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw'n digwydd.
"Rwy'n benderfynol o sicrhau bod Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio'n agos gyda'i gilydd i adeiladu arfordir mwy gwydn i Gymru, ac fe fydd canfyddiadau'r adroddiad yma'n hanfodol er mwyn cyrraedd y nod yna."
Straeon perthnasol
- 14 Ebrill 2014
- 9 Ebrill 2014
- 3 Ebrill 2014
- 6 Mawrth 2014
- 3 Mawrth 2014
- 13 Chwefror 2014
- 30 Ionawr 2014
- 27 Ionawr 2014