Morgannwg ar ei hôl hi

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, GCCC

Ar ôl ymdrech dda gan fatwyr Morgannwg, mae'r gêm bencampwriaeth yng Nghaerlŷr yn debyg o orffen yn gyfartal ddydd Mercher.

Fe ddechreuodd Morgannwg y bore ar 126 heb golled wrth ymateb i gyfanswm Caerlŷr o 500 yn eu batiad cyntaf.

Cyn pen dim roedd Rudolph a Gareth Rees wedi mynd, ond fe gafwyd ymdrech dda wedyn gan Stewart Walters a Jim Allenby i gadw'r momentwm.

Ond Graham Wagg oedd y seren yn ail ran y batiad gan sgorio 57 i arwain yr ymwelwyr i gyfanswm o 359 - 141 yn brin o gyfanswm y tîm cartref.

Cyn diwedd y dydd fe lwyddodd Caerlŷr i sgorio 77 am un wiced i sicrhau mantais o 218 ar y cyfan, ond gyda'r llain yn ffafrio batwyr, mae'n annhebygol y bydd y naill dîm na'r llall yn llwyddo i wneud digon i ennill.

Pencampwriaeth y Siroedd - Adran 2 :-

Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 500 (O'Brien 133, Cobb 63, Taylor 63, Naik 59 h.f.a.)

(ail fatiad) = 77 am 1

Morgannwg (batiad cyntaf) = 359 (Rees 72, Rudolph 65, Wagg 57)