Uwchgynghrair Cymru: Seintiau'n colli
- Cyhoeddwyd

Caerfyrddin 1-0 Y Seintiau Newydd
Yn y gêm olaf yn y tymor arferol yn Uwchgynghrair Cymru fe ddaeth colled annisgwyl ac anarferol i'r Seintiau Newydd.
Roedd y gêm yng Nghaerfyrddin i fod i gael ei chwarae y Sadwrn diwethaf, ond fe gafodd ei gohirio oherwydd problem gyda'r cae, ond mae'r canlyniad yn un arwyddocaol.
Gyda'r Seintiau yn rownd derfynol Cwpan Cymru y Sadwrn nesaf, fe fyddai rhywun efallai'n maddau iddyn nhw am beidio cadw'u meddyliau ar eu gwaith, ond go brin y bydd Bangor yn maddau hynny.
Roedd un gol gan Christian Doidge yn ddigon i sicrhau'r pwyntiau, ac oherwydd y fuddugoliaeth i Gaerfyrddin tîm Mark Aizlewood sy'n gorffen yn drydydd yn y tabl, ac felly wedi sicrhau'r fantais o chwarae gartref yn y gemau ail gyfle.
Y gemau hynny fydd yn penderfynu pwy sy'n cipio'r trydydd lle i dimau o Gymru yn Nghynghrair Europa y tymor nesaf - bydd Airbus ac Aberystwyth (am lwyddo i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru) yn sicr yno gyda'r Seintiau yn mynd i Gynghrair y Pencampwyr.
Mae yna ansicrwydd o hyd am bwy fydd yn y gemau ail gyfle. Os fydd Aberystwyth yn ennill Cwpan Cymru yn erbyn y Seintiau ddydd Sadwrn, fe fydd y Bala'n wynebu'r Rhyl i benderfynu pwy sy'n ymuno gyda Chaerfyrddin, Bangor a'r Drenewydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Ond os fydd Aber yn colli i'r Seintiau, ni fydd gan Bala'r hawl i fynd i'r gemau ail gyfle o gwbl a bydd Y Rhyl wedyn yn herio Caerfyrddin a Bangor yn croesawu'r Drenewydd am le yn ffeinal y gemau ail gyfle.
Does dim byd yn syml yn Uwchgynghrair Cymru.