Talcen caled i Dominic Dale

  • Cyhoeddwyd
Dominic Dale

Bydd gan y Cymro Dominic Dale fynydd i'w ddringo ddydd Mercher pan fydd ei gêm yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn dod i benn.

Y cyntaf i 13 fydd yn mynd ymlaen i'r rownd gynderfynol, ac mae Dale ar ei hôl hi wedi'r ddwy sesiwn gyntaf yn erbyn y Sais Barry Hawkins.

Cafodd dwy sesiwn eu cynnal ddydd Mawrth, ac fe gafodd Hawkins ddechrau da gan fynd ar y blaen o 6-2 wedi'r sesiwn gyntaf.

Ond roedd Dale yn cael trafferth adeiladu rhediadau uchel - 69 oedd yr uchaf iddo ei gael drwy'r dydd.

Er i'r Cymro berfformio ychydig yn well gyda'r nos, Hawkins aeth â'r sesiwn yna hefyd o 5-3, gan ei roi 11-5 ar y blaen gydag un sesiwn yn weddill yfory.

Dwy ffram fydd angen ar Hawkins i gyrraedd y pedwar olaf pan fydd yr ornest yn ail gychwyn am 2:30yh.