Y Frenhines yn ymweld ag Ystrad Mynach a Llanilltud Fawr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Frenhines a Dug Caeredin wedi gorffen eu taith i dde Cymru gydag ymweliadau i gwmni nwyddau ysgrifennu a choleg rhyngwladol.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad i gwmni International Greetings UK yn Ystrad Mynach, lle cafodd y cwpl brenhinol eu dangos o amgylch eu safle.
Mae 400 o staff yn gweithio yn y ffatri sy'n gwneud nwyddau y mae'r Frenhines yn eu defnyddio adeg y Nadolig.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Frenhines gyfle i gwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Yn dilyn yr ymweliad, aeth y cwpl i Goleg Iwerydd yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, lle cawson nhw eu diddanu gan gôr cyn cwrdd â staff, myfyrwyr a grwpiau lleol.
Dechreuodd y cwpl eu taith ddydd Mawrth, pan gafodd y Frenhines gyfle i weld y ceffyl rasio Teaforthree mewn ysbyty geffylau ger Arberth, Sir Benfro.
Y ceffyl oedd y ffefryn ar gyfer ras y Grand National cyn iddo ddisgyn yn ystod y ras yn Aintree.
Cafodd y Dug gyfle i weld safle pacio tatws Puffin Produce yn Hwlffordd.
Brynhawn Mawrth, aeth y cwpl brenhinol i ymweld â Chapel yr Iard Ddociau Frenhinol yn Noc Penfro.
Cafodd plac arbennig ei ddadorchuddio, i nodi dau gan mlwyddiant tre Doc Penfro.
Straeon perthnasol
- 29 Ebrill 2014