Cameron yn rhoi teyrnged i filwyr fu farw yn Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Roger Williams AS
Disgrifiad o’r llun,
Rhoddodd Roger Williams AS deyrnged i'r Is-gorporal Oliver Thomas, oedd yn gweithio fel ymchwilydd iddo

Mae'r Prif Weinidog ac Aelodau Seneddol eraill wedi rhoi teyrngedau i ddau filwr o Gymru gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan y penwythnos diwethaf.

Roedd y Capten Thomas Clarke o'r Bont-faen a'r Is-gorporal Oliver Thomas o Aberhonddu yn ddau o bum milwr Prydeinig fu farw yn y digwyddiad.

Dywedodd David Cameron bod y marwolaethau yn "ein hatgoffa o'r colledion yr ydyn ni wedi eu hwynebu yn Afghanistan".

"Mae hwn yn edrych fel damwain drasig ond byddwn yn darganfod beth ddigwyddodd."

Yn siarad yn ystod cwestiynau'r prif weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin, ychwanegodd: "Mae ein milwyr wrth gefn ym mhob llu yn gwasanaethu ochr yn ochr â'u cydweithwyr ac yn cymryd yr un risgiau, ac yn Afghanistan maen nhw wedi profi dro ar ôl tro eu bod yn bobl o safon, gallu a dewrder enfawr."

Fe wnaeth Aelod Seneddol Aberhonddu a Sir Faesyfed, Roger Williams, hefyd dalu teyrnged i'r Is-gorporal Thomas, oedd yn gweithio fel ymchwilydd i'w swyddfa.

Dywedodd Mr Williams bod Oliver Thomas yn "ŵr ifanc arbennig yr oedd pawb yn hoff ohono, ac yn cael ei barchu gan bawb oedd yn ei adnabod ac yn gweithio gydag o".

Rhoddodd arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, deyrnged i'r rhai fu farw hefyd.

Bu farw'r pump pan syrthiodd eu hofrennydd Lynx o'r awyr yn ne Afghanistan ddydd Sadwrn.