Bwyty Bryn Williams gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Mae'r cogydd Bryn Williams, wedi ymrwymo i agor tŷ bwyta a chreu 14 o swyddi ym Mae Colwyn.
Yn gynharach arwyddodd prydles i fod yn rhan o ddatblygiad canolfan chwaraeon dŵr, Porth Eirias.
Cyhoeddodd Bryn Williams, sy'n berchen ar fwyty enwog Odette yn ardal Primrose Hill, Llundain , ei fwriad i agor bwyty ym Mhorth Eirias ym mis Medi 2013.
Roedd y cogydd sy'n dod yn wreiddiol o Ddinbych yn dweud ei fod eisiau dangos ei ddoniau coginio yng ngogledd Cymru.
Dros y misoedd diwethaf roedd rhai yn pryderu na fyddai'r datblygiad yn digwydd o gwbl.
Roedd disgwyl i'r bwyty agor ym mis Tachwedd llynedd.
Ymroddiad
Ond dywedodd llefarydd ar ran Mr Williams, doedd yna "ddim amheuaeth" y byddai'n ymroddi i'r prosiect.
Bydd y bwyty yn defnyddio cynnyrch lleol ac yn gweithio gydag adran arlwyo Coleg Llandrillo ar gyfieuon waith.
Meddai'r llefarydd: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cwblhau'r broses ac wedi llofnodi'r brydles ar gyfer y safle.
"Doedd yna ddim amheuaeth yn ein penderfyniad i ddod yma.
"Rydym wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac arian yn ystod y deuddeg mis diwethaf ar baratoadau cynllunio ar gyfer y prosiect yma ac rydym yn hyderus bydd yn llwyddiant mawr.
"Mae gennym lawer o waith o'n blaenau, ac yn sicr bydd yn werth y disgwyl pan fyddwn yn agor yn ddiweddarach eleni. "
Hwb i Fae Colwyn
Dywedodd Arweinydd Cyngor Conwy, Dilwyn Roberts : "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi denu bwyty uchel ei barch o'r fath.
"Mae ymrwymiad cogydd enwog fel Bryn yn hwb go iawn i adfywio Bae Colwyn a Chyngor Conwy.
"Cymerodd y broses gyfreithiol yn hirach na'r disgwyl, ac ar adegau mae'r oedi wedi bod yn rhwystredig i bawb."
Dywedodd Gweinidog Tai ac Adfywio'r Llywodraeth, Carl Sargeant ei fod yn braf gweld arian gan y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio mewn datblygiad adfywio megis Porth Eirias.
Straeon perthnasol
- 2 Chwefror 2014