Agor banc bwyd newydd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Banciau Bwyd
Disgrifiad o’r llun,
Bank Bwyd newydd yn agor yng Nghaerdydd.

Mae Banc Bwyd Caerdydd wedi agor ei phumed canolfan dosbarthu bwyd.

Bydd y banc bwyd diweddaraf, sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Trussel yn Eglwys Sant Saviour yn Y Sblot, ar agor gyda'r nos ar gyfer pobl sy'n gweithio neu mewn addysg llawn amser.

Mae Arglwydd Faer Caerdydd, y cynghorydd Derrick Morgan wedi dewis cefnogi banciau bwyd fel ei elusen swyddogol yn 2013/14.

Cymorth angenrheidiol

Meddai: "Mewn hinsawdd lle mae tlodi'n gwaethygu a digartrefedd yn cynyddu, mae Banciau Bwyd a'u rhwydwaith o wasanaethau cymorth yn dod yn fwy a mwy angenrheidiol.

"Bydd agor pumed canolfan yng Nghaerdydd, er gwaetha'r ffaith fod hynny'n dangos fod tlodi ar gynnydd, yn galluogi pobl yn ne-ddwyrain y ddinas i gael gafael ar gymorth hanfodol."

Dywedodd Offeiriad Plwyf Eglwys Sant German a Sant Saviour, Dean Atkins: "Rydyn ni wedi bod yn casglu bwyd a'i roi i Fwyd Banc Caerdydd ers tro byd, ac rydym yn falch o sefydlu'r bartneriaeth hon gyda nhw mewn ffordd newydd a chyffrous.

"Mae'n amlwg bod angen am y math hwn o gymorth yn y gymuned leol ac rydw i'n creu ei bod yn gyfrifoldeb ar yr Eglwys i geisio diwallu'r angen hwnnw."

Mae mwy na 90 o asiantaethau ledled y ddinas yn cynnig cymorth i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu argyfwng byr dymor drwy dalebau Banc Bwyd Caerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol