Tân mewn garej yn Ninbych: dechrau ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi cychwyn yn dilyn tân mewn uned garej yn Ninbych.
Cafodd criwiau eu hanfon o Rhuthun, Rhyl, Dinbych ac Abergele i ddelio gyda'r fflamau toc cyn 11 bore Mercher.
Mae un dyn wedi cael llosgiadau ar ei fraich ac mae o'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Erbyn hyn mae'r tân dan reolaeth ond mae ymchwiliad wedi cychwyn i'r achos.