Cyffuriau: plant 10 oed yn cael help

  • Cyhoeddwyd
Young drinker
Disgrifiad o’r llun,
Gofynodd y Press Association i holl gynghorau Prydain a'r Alban am wybodaeth rhwng 2011 a 2014

Mae plant mor ifanc â 10 oed yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

Y plentyn ifengaf yng Nghymru yn y tair blynedd ddiwethaf oedd plentyn 10 oed o Sir Fynwy.

Ond cafodd plant 11 oed ym Mlaenau Gwent a Chaerffili hefyd eu cyfeirio at y gwasanaethau arbenigol.

Daeth y ffigyrau i'r amlwg yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Press Association.

Mi wnaethon nhw ofyn i gynghorau lleol ar draws Prydain a'r Alban am y wybodaeth ar gyfer y blynyddoedd 2011/12, 2012/13 a 2013/14.

Wnaeth bob un cyngor ddim rhoi gwybodaeth.

Mae elusenau wedi ymateb trwy alw am well addysg am gyffuriau mewn ysgolion.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni yr elusen Mentor UK, Andrew Brown ei fod wedi synnu gyda'r wybodaeth.

"Mae ein harolwg athrawon ni yn awgrymu ar y funud bod yna anghysondeb ac yn gyffredinol mai dim ond un neu ddwy sesiwn y flwyddyn sydd yn cael ei gynnal.

Angen mwy o help

"Efallai bod hyn yn ymddangos yn ddigonol ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhaglenni mwy hir dymor sydd yn adeiladu ar sgiliau a gwerthoedd yn fwy tebygol o atal pobl ifanc rhag niwed na gwersi achlysurol."

Mae cadeirydd Pwyllgor Materion Cartref San Steffan, Keith Vaz yn dweud bod angen i rieni "gymryd cyfrifoldeb" ac y dylen nhw gael cefnogaeth ychwanegol er mwyn atal plant rhag gweld cyffuriau ac alcohol yn cael eu cam ddefnyddio.

Mi all blant gael eu cyfeirio at wasanaethau am eu bod wedi gweld aelod o'r teulu yn camddefnyddio neu am eu bod nhw'n gwneud eu hunain.

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen alcohol a chyffuriau Sands yn Abertawe, Ifor Glyn:

"Mi fydden i yn pryderu am unrhyw blentyn yn cymryd cyffuriau neu yn yfed alcohol. Ond mae angen i ni fod yn realistig a derbyn bod pobl ifanc wastad wedi arbrofi.

"Mi allai fod yn sefyllfa lle mae plentyn 10 oed wedi cymryd sieri ar nos Wener ac mai un digwyddiad yw hyn. Dyw hynny ddim yn golygu bod gan berson broblem ddifrifol gyda chyffuriau."