Ailagor rhan o reilffordd y Cambrian wedi difrod tywydd

  • Cyhoeddwyd
Rehilffordd y Cambrian
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mark Langman o network Rail bod y difrod gafodd ei achosi "heb gynsail"

Bydd rhan arall o reilffordd y Cambrian gafodd ei ddifrodi gan dywydd garw yn gynharach eleni yn ail agor ddydd Iau.

Mae'r awdurdodau wedi gwario £10m ar waith atgyweirio ar ôl i lanw uchel ddifrodi amddiffynfeydd ar yr arfordir rhwng y Bermo a Harlech.

Dywed Network Rail y bydd y rheilffordd rhwng y ddwy dref ar agor unwaith yn rhagor, a hynny bythefnos yn gynt na'r disgwyl.

Fe wnaeth rhan o'r rheilffordd rhwng Machynlleth a'r Bermo ail agor ym mis Chwefror, tra bu gwaith atgyweirio yn parhau ar y lein rhwng Harlech a Phwllheli.

Disgrifiad o’r llun,
Six thousand pieces of rock have been restored to protect the line from the sea

Bu'n rhaid defnyddio bysiau i gludo tua 200 o blant i Ysgol Ardudwy, Harlech, tra bod y gwaith o atgyweirio'r rheilffordd yn mynd rhagddo.

Dywedodd Mark Langman, rheolwr gyfarwyddwr Network Rail yng Nghymru: "Roedd maint y difrod gafodd ei achosi gan y stormydd heb gynsail.

"Fe gafodd yr amddiffynfeydd eu chwalu mewn sawl rhan, ac fe achosodd hynny ddifrod mawr i'r rheilffordd.

"Dwi'n gwybod fod y lein yn bwysig i'r economi leol ac roeddem yn benderfynol i ail agor y lein mor fuan â phosib cyn belled a bod hynny'n ddiogel.

"Rwyf am ddiolch i gymunedau lleol am eu cefnogaeth ac am fod yn amyneddgar tra bod y gwaith atgyweirio yn mynd rhagddo."