Pan ddaeth George Martin i'n tŷ ni
- Cyhoeddwyd
Wrth glywed fod Syr George Martin, y dyn wnaeth arwyddo'r Beatles, wedi marw yn 90 oed, mae Elin Dawes, un o gynhyrchwyr Cymru Fyw, wedi bod yn cofio am yr adeg y daeth i'w chartref yng Nghaerfyrddin am de pan oedd yn blentyn.
Galla i gofio'r dydd yn glir. George Martin, cynhyrchydd y Beatles, yn sefyll yn lolfa ein tŷ ni. Paned mewn un llaw a chasét yn y llall.
"The song on this tape hasn't been heard outside a recording studio until today. It's Elton John's track for the album that you're on."
Ychydig wythnosau ynghynt r'on i'n sefyll mewn rhes hir o blant ar Stryd y Cei yng Nghaerfyrddin. Ro'n i newydd droi naw oed ac yn disgwyl clyweliad am ran y 'Plentyn' mewn recordiad newydd o Under Milk Wood gan Dylan Thomas.
Hon oedd y fersiwn o'r ddrama gafodd ei chynhyrchu gan George Martin a'i chyhoeddi yn 1988.
Roedd y cynhyrchwyr wedi penderfynu eu bod eisiau lleisiau plant Sir Gâr i roi lliw i'r ddrama, gydag actorion enwog fel Anthony Hopkins, Jonathan Pryce a Freddie Jones yn chwarae'r prif rannau.
Rhai wythnosau wedyn cyrhaeddodd llythyr drwy'r post yn cadarnhau fy mod wedi cael fy newis i fynd i'r Boat House yn Nhalacharn, lle fydden i yn recordio'n llinellau.
Recordio yn y Boat House
Ar Ebrill 17, 1988 rwy'n cofio cael fy ngadael gyda chriw o blant am y dydd - rhai wynebau cyfarwydd, eraill ddim - gyda rhyw ddyn o'r enw Rod. Cofio hefyd cael fy swyno gyda llais Mary Hopkin (oedd yn chware rhan Rosie Probert) a sefyll o flaen meicroffon gyda George Martin, yn ddyn tawel ac addfwyn, yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i ddweud fy llinellau. D'on i ddim yn sylweddoli ar y pryd ei fod wedi gweithio gyda mawrion fel Lennon a McCartney!
Rôl y 'Plentyn' dwi'n ei chwarae yn y cynhyrchiad. Dwi'n siarad gyda fy mam (Lynette Davies) a'r Prif Lais (Anthony Hopkins) yn adrodd y stori gan ymateb i fy llinellau.
Ar y pryd do'n i ddim yn gwerthfawrogi ystyr na phŵer y llinellau r'on i'n eu perfformio, ond o wrando ar eiriau Dylan Thomas flynyddoedd yn ddiweddarach, rwy' di dod i ddeall yn well arwyddocad llinellau'r plentyn.
Plentyn (fi): "Look" Prif Lais (Anthony Hopkins): "Says a child to her mother as they pass by the window of Schooner house" Plentyn: "Captain Cat is crying" Captain Cat (Freddie Jones): "Come back ... Come back" Plentyn: "He's crying all over his nose. He's got a nose like strawberries" Prif Lais:"...the child says. Then she forgets him too." Plentyn: "Nogood Boyo gave me three pennies yesterday, but I wouldn't."
Y dydd daeth George Martin i'n tŷ ni
Wedi'r diwrnod hwnnw yn Nhalacharn, digwyddodd rhywbeth braidd yn swreal. Buodd George Martin yn yfed te yn ein tŷ ni. Roedd e'n awyddus i recordio fy llinellau eto yn yr awyr agored gyda sŵn cefndir naturiol y tro hwn, a gofynnodd i fy mrawd redeg ar draws y cerrig i greu effaith sain.
Tra roedd yn y tŷ fe chwaraeodd drac demo i ni gafodd ei recordio gan Elton John. Dyma oedd y tro cyntaf i'r gân honno (sy'n cael ei chanu gan Bonnie Tyler ar y recordiad terfynol), gael ei chlywed tu allan i stiwdio recordio.
Pan yrrodd George Martin o'n tŷ ni y pnawn hwnnw yn 1988, weles i byth mohono wedyn. Ond mae gen i'r albym, gyda fy enw ar restr y cast wrth ochr rhai o actorion mwya' Cymru, i'w thrysori.