Dale allan o Bencampwriaeth y Byd
- Cyhoeddwyd

Mae Dominic Dale allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield, ond nid cyn iddo bron a chreu sioc anferth yn rownd yr wyth olaf.
Roedd Barry Hawkins yn ail yn y bencampwriaeth y llynedd a phan ddechreuodd y sesiwn olaf ddydd Mercher ar y blaen o 11-5 yn erbyn Dale, roedd llawer yn rhagweld na fyddai'r gêm yn para'n hir.
Roedd yn rhaid i Dale ennill wyth o'r naw ffrâm yn y sesiwn er mwyn cyrraedd y rownd gynderfynol, ond roedd y dorf yn y Cruicible yn synnu wrth weld y Cymro o Lanfihangel-yr-arth yn ennill ffram ar ôl ffram.
Cafodd gyfres o rediadau o 75, 65, 64, 61 a 52 wrth i nerfau Hawkins fynd yn drech nag e.
Cyn yr egwyl, fe enillodd Dale y pedair ffrâm cyntaf, cyn dychwelyd i ennill y tair nesaf hefyd i fynd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm o 12-11.Ond fe ddangosodd Hawkins ei allu a'i gymeriad i ddod yn ôl i gipio ffrâm 24 i unioni'r sgôr unwaith eto - 12-12.
Yn anffodus i Dale fe gafodd Hawkins gyfle cynnar yn y ffram olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda rhediad o 65.
Bydd Hawkins yn wynebu'r pencampwr Ronnie O'Sullivan yn y rownd gynderfynol.