Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Morgannwg gêm gyfartal ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Grace Road ar ddiwrnod olaf llawn drama.
Daeth y tîm cartref â'u hail fatiad i ben ar 179 gan osod nod o 321 i Forgannwg i ennill y gêm.
Er bod hynny'n dasg anodd roedd yr ymwelwyr ar un cyfnod yn 183 am 3, a gyda Murray Goodwin a Stewart Walters yn mynd yn dda roedd gobaith o fuddugoliaeth annisgwyl.
Ond yna fe gollodd Morgannwg bedair wiced yn gyflym, ac roedd y cyfrifoldeb ar ysgwyddau Walters a John Glover i aros yn y canol er mwyn sicrhau na fydden nhw'n colli'r gêm.
Fe wnaethon nhw hynny gyda Walters yn gorffen ar 57 h.f.a. a Glover ar 19 h.f.a. wrth i Forgannwg orffen y diwrnod ar 250 am 7 gan ennill pwynt bonws ychwanegol.
Pencampwriaeth y Siroedd - Adran 2 :-
Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 500 (O'Brien 133, Cobb 63, Taylor 63, Naik 59 h.f.a.)
(ail fatiad) = 179 am 8 (dod â'r batiad i ben)
Morgannwg (batiad cyntaf) = 359 (Rees 72, Rudolph 65, Wagg 57)
(ail fatiad) = 250 am 7 (Rudolph 63, Goodwin 50, Walters 57 h.f.a.)