Rhybudd melyn o law trwm i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae pryder y gallai glaw trwm a thywydd garw achosi problemau ar hyd a lled Cymru ddydd Iau.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer rhannau o dde a dwyrain Cymru, gan gynnwys Powys a rhannau o'r cymoedd, rhwng hanner dydd ac 8pm.
Gall hyn achosi llifogydd ac achosi problemau i deithwyr.
Does dim disgwyl tywydd garw yn y gogledd orllewin a'r de orllewin ond mae yna rybudd i bobl gysylltu gyda'r Swyddfa Dywydd rhag ofn bod y sefyllfa yn newid.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai rhwng 10-15 mm (4-6 modfedd) o law syrthio mewn awr, a chymaint â 30-40 (1tr-1.3tr) mewn tair awr mewn ambell i ardal.
Dywedodd dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway na fydd pob ardal yn dioddef.
"Mae'n debyg y bydd sir Benfro yn ffodus, ac yn cael p'nawn sych a hyd yn oed heulwen.
"Fe fydd y cawodydd yn lleihau nos Iau ac mae disgwyl tywydd gwell dydd Gwener."
Straeon perthnasol
- 30 Ebrill 2014
- 9 Ebrill 2014
- 7 Ebrill 2014