Paratoi'r maes ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Bala
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith paratoi'r safle ar gyfer eisteddfod yr urdd Meirionnydd wedi dechrau a'r dywarchen gyntaf wedi ei thorri ar stad y Rhiwlas, Y Bala.
Dyma fydd lleoliad y brifwyl ieuenctid rhwng Mai 26 a Mai 31 ac mae'r caeau yn y broses o gael eu trawsnewid gyda tracfyrddau, ffensys a swyddfeydd wrthi'n cael eu gosod.
Mi fydd yna ambell i newid ar y maes y tro yma gyda'r adeilad ar gyfer gweithgareddau gwyddonol a daearyddiaeth yn dyblu mewn maint. Bydd ardal ar gyfer creu apiau a chodio cyfrifiadurol a llwyfan yn cael ei osod ar gyfer cyflwyniadau.
Y tro yma hefyd mi allith pobl argraffu eu tocynnau eu hunain os ydyn nhw wedi talu amdanyn nhw ymlaen llaw. Bydd system newydd electroneg yn cael ei defnyddio er mwyn sganio tocynnau ac mi allith pobl alw yn y blwch tocynnau sydd ar agor wythnos cyn yr eisteddfod gydag unrhyw ymholiad neu i brynu tocynnau.
Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn yn dweud bod rwan yn amser "llawn cynnwrf" wrth i'r caeau gael eu gwedd newid.
"Mae'n anhygoel beth gall y tîm ei gyflawni mewn ychydig o amser gan sicrhau bod caeau gwyrddion Rhiwlas yn troi'n faes pwrpasol i groesawu pawb o bell ac agos i brifwyl ieuenctid yr Urdd.
Agos at y targed
"Rydym yn awyddus i sicrhau bod trefniant penodol yn ei le ar gyfer teithio i'r maes yn ddiogel ac o gydweithio â'n partneriaid Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd sy'n hyddysg ym maes trafnidiaeth, rydym yn hyderus fod y cynlluniau sydd gennym yn galluogi ymwelwyr i gyrraedd y maes yn hwylus.
"Y fantais sydd gennym gyda'r maes ar gaeau stad Rhiwlas Y Bala yw bod y lleoliad wedi gweithio'n hwylus yn y gorffennol ar gyfer digwyddiadau tebyg."
Yn ôl Hedd Pugh, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Meirionnydd 2014 mae pobl yr ardal yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r eisteddfod.
"Wedi dwy flynedd o gydweithio i gynnal gweithgareddau lleol codi arian a chodi ymwybyddiaeth, mae'n hyfryd gweld y gwaith adeiladu'n cychwyn!
"Mae'r gefnogaeth yn lleol wedi bod yn wych, a hoffwn ddiolch i'r tîm dygn o wirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi'n ddi-baid.
"Mae'r cyhoedd ym mhob rhan o'r ardal wedi sicrhau cyfraniadau ariannol i gynorthwyo yn y gwaith o lwyfannu'r brifwyl ieuenctid ym Meirionnydd. Gyda 90% o'r targed wedi ei gyrraedd, bydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i roi hwb olaf i'r gwaith."
Straeon perthnasol
- 29 Ebrill 2014
- 25 Ebrill 2014
- 1 Chwefror 2013