Cartref nyrsio: 'angen ymchwiliad'
- Cyhoeddwyd

Mae 'na alwadau am ymchwiliad wedi i fenyw oedrannus gael ei hesgeuluso a'i chamdrin yn eiriol mewn cartref nyrsio.
Mi roddodd teulu Veronica Teal gamera cyfrinachol yn ystafell ei mam 72 oed yng Nghartref Nyrsio Bethshan yn Y Drenewydd, Powys.
Roedden nhw wedi dechrau pryderu am y ffordd yr oedd hi'n cael ei thrin. Roedd y deunydd yn dangos nad oedd y cartref yn cwrdd â'i anghenion sylfaenol a'i bod hi'n cael ei chamdrin yn eiriol.
Mae aelod o staff wedi ei disgyblu.
Symudodd Mrs Teal i'r cartref, sy'n berchen gan y Pentecostal Hope Church, ym mis Tachwedd 2013.
Rhywbeth o'i le
Roedd hi wedi cael strôc 20 mlynedd yn gynt ond wedi byw yn annibynnol ers hynny.
Dim ond ar ôl iddi gael trafferth mynd o'i gwely i'w chadair olwyn y symudodd hi i'r cartref nyrsio.
Ond ychydig o ddyddiau yn unig wedi iddi symud mi ddechreuodd ei merch, Sam a'i mab Mark boeni bod 'na rywbeth o'i le.
Mae gan Veronica Teal dysffasia ac er bod ei meddwl hi'n iawn, dyw hi ddim yn medru cyfathrebu'n glir.
"Mi wnaethon ni ei symud hi ar y dydd Gwener a dwi'n cofio edrych arni pan y daeth hi i mewn ac mi oedd hi'n edrych fel ei bod hi'n torri ei chalon," meddai Sam.
"'Nes i feddwl mai problemau setlo fewn oedd ganddi. Ond mi oedd hi'n ddydd llun wedyn pan es i yna a doedd dim modd ei chysuro hi."
Siaradodd Ms Teal gydag aelodau o staff am driniaeth ei mam ond doedd hi ddim yn hapus gyda'i hymateb. Felly mi benderfynodd y teulu roi camera yn ystafell ei mam gyda'i chaniatâd.
Pan edrychodd y teulu ar y deunydd mi oedden nhw'n gofidio am y ffordd yr oedd rhai o'r staff yn trin ei mam.
Dim gwagio'r catheter
Mi ddywedodd un person oedd yn gofalu amdani: "Rwyt ti wedi colli 10 pwys mewn 10 wythnos ac mi wnei di farw.
"Wyt ti eisiau marw? Wyt ti mor hunanol y byddet ti yn caniatáu i dy blant di wynebu hynny? Wyt ti mor hunanol y byddet ti'n llwgu dy hun i farwolaeth, wyt ti? Rwyt ti mor hunanol. Bwyta'r bwyd 'na. Does gen i ddim amynedd at bobl fel ti."
Ar achlysur arall mi ddywedodd yr un person: "Esgusodwch fi, paid â siarad gyda fi yn y ffordd yna. Paid â bod mor anghwrtais. Os wyt ti eisiau llwgu dy hun i farwolaeth, cer amdani, dy ddewis di [yw hwn]."
Ar ddiwrnod arall roedd y deunydd ffilmio yn dangos nad oedd bag catheter y fam wedi ei wagio am 26 awr. Roedd hyn wedi ei gadael hi mewn poen. Dywedodd y cartref mai mater hyfforddi oedd hyn ac y bydden nhw'n edrych ar y mater.
Er bod enghreifftiau o ofal da, dywedodd Ms Teal bod gwylio'r ffilm yn ei hypsetio ac mi wnaethon nhw gysylltu gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.
Chwe wythnos wedyn cafodd Mrs Teal ei rhoi mewn cartref arall.
Disgyblu
Mae 'na alwadau am ymchwiliad i sut y cafodd hi ei thrin yn y cartref nyrsio.
Dywedodd Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru Tina Donnelly: "Mae dweud wrth glaf nad oes ganddyn nhw unrhyw amser ar gyfer claf neu gleifion... mae hynny yn annerbyniol yn fy nhyb i.
"Mi fydden i yn gobeithio bod yna ymchwiliad llawn i'r ffordd mae'r cartref yn cael ei reoli. Mi fydda i yn bersonol yn cysylltu gyda Chyngor Gofal Cymru i ofyn iddyn nhw edrych ar y mater.
"Pan mae rhywun mewn cartref gofal rydych chi'n disgwyl i'r gofal yna gael ei roi mewn ffordd urddasol ac sydd yn dangos eu bod nhw'n poeni... Os oes canfyddiad bod yna ofal gwael, y person cyntaf ydych chi'n cysylltu efo ydy tîm rheoli'r cartref gofal ac mae'n rhaid gwrando ar y pryderon yna."
Mewn datganiad dywedodd ymddiriedolwyr y cartref nyrsio eu bod yn edifar am y cam-drin geiriol a bod aelod o staff wedi ei disgyblu ac yn cael hyfforddiant pellach.
Dywedodd y datganiad eu bod wedi darparu gofal gwych ar gyfer pobl hŷn am flynyddoedd a thrwy waith caled ac ymrwymiad y staff ei bod yn ymgyrraedd at roi gofal o safon uchel.
Cafodd ymchwiliad Amddiffyn Oedolion Bregus ei lansio gan y gwasanaethau cymdeithasol yn dilyn yr honiadau o gam-drin geiriol.
Bydd casgliad yr ymchwiliad yn cael ei rannu gyda theulu Ms Teal ddydd Gwener.