Tri wedi eu trywanu mewn tŷ yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
Caerffili
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ am tua 9:00yh nos Fercher.

Mae tri o bobl wedi eu hanafu ar ôl cael eu trywanu yng Nghaerffili.

Cafodd dyn 23 oed ei drywanu yn ei fraich a'i gefn, dyn arall 24 oed ei drywanu yn ei gefn a'i gorff a menyw 23 oed ei thrywanu yn ei braich.

Mi gafodd yr heddlu eu hanfon i gyfeiriad yng Nghwrt Snowdon, Parc Lansbury am 9:00yh nos Fercher. Cafodd dau ambiwlans eu hanfon, dau ddoctor ac un swyddog ambiwlans.

Mi aeth y tri chlaf i'r ysbyty ac mae'r dyn 24 oed dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae'r heddlu yn credu bod tri dyn wedi llwyddo i gael i mewn i'r adeilad ac wedi ymosod ar y bobl oedd yno cyn gadael mewn car.

Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio mwy nac un lleoliad ar y ffordd.

Gofynnir i unrhyw un a welodd unrhywbeth i gysylltu gyda'r heddlu.