Stopio siarad Cymraeg: gorchymyn meddyg i fam a'i merch

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Ysbyty Glan ClwydFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mi oedd Dorothy Williams wedi mynd a'i merch i'r adran frys yn ysbyty Glan Clwyd ddydd Mawrth

Mae mam o ogledd Cymru wedi dweud wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru bod meddyg yn Ysbyty Glan Clwyd wedi gofyn iddi hi a'i merch roi'r gorau i siarad Cymraeg.

Roedd y doctor wedi dweud y byddai hyn yn "sarhad personol" iddi hi os y bydden nhw'n parhau i siarad yr iaith gyda'i gilydd.

Fe aeth Dorothy Williams â'i merch i'r adran frys yn yr ysbyty ddydd Mawrth ac mae hi'n dweud bod y meddyg wedi gwneud y sylwadau pan oedd hi'n trin ei merch.

Mae Mrs Williams wedi dweud y bydd hi'n cysylltu gyda'r ysbyty i gwyno ac y bydd hefyd yn cysylltu gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

'Sylw ansensitif'

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro am y sylw "ansensitif" ac "annerbyniol".

"Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi'r iaith Gymraeg - dyna yw iaith gyntaf llawer o'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau a siom yw clywed bod y fath sylw wedi'i wneud.

"Er nad yw pob un o'n staff yn siarad Cymraeg, ein nod yw darparu gwasanaeth dwyieithog lle bynnag bo'n bosibl a byddem yn disgwyl i gydweithwyr drin ein cleifion gyda pharch."

Dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg nad ydyn nhw eto wedi cael gwybodaeth am yr achos penodol yma.

"Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i gwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg a chwynion am achosion lle bu ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg," meddai'r datganiad.

"Mae'r Comisiynydd yn annog y cyhoedd i gwyno naill ai drwy lenwi ffurflen gwyno bwrpasol ar y wefan - comisiynyddygymraeg.org, drwy gysylltu ar y ffôn - 0845 6033221, neu dros e-bost neu lythyr."