Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Yn sgil honiad David Cameron fod Prydain yn wlad Gristnogol, a haeriad Rowan Williams ein bod yn gymdeithas ôl-Gristnogol, bu Vaughan Roderick yn meddwl am ei hen wncwl Evan oedd yn ddiacon yng nghapel Soar, Clydach Vale, am flynyddoedd.
Byddai wedi bod yn 18 oed ym 1904 pan oedd pentref Cwm Clydach yn ganolbwynt i'r diwygiad.
Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach, yn 2011, roedd Cwm Clydach yn un o ddwsin o wardiau yng Nghymru a Lloegr lle ticiodd mwyafrif y trigolion y blwch "dim crefydd" ar eu ffurflenni cyfrifiad, ac mae gweddill Cymru'n ddigon tebyg yn ôl Vaughan.
Go brin, meddai, y byddai'r Cristion mwyaf pybyr yn honni ein bod ni'n wlad Gristnogol bellach.
Byd wedi diflannu?
Ar nodyn tebyg, draw ar wefan Ffrwti cafwyd trafodaeth ddifyr dros y dyddiau diwethaf yn dilyn blogiad gan Anghydffurfiwr am y modd mae'r Gymru lle byddai'r mwyafrif yn mynd i'r capel neu'r eglwys ar y Sul, yn canu emynau ac yn cofio adnodau ar eu cof, wedi hen ddiflannu, ond nad oes dim byd mewn gwirionedd wedi dod i lenwi'r bwlch yn hunaniaeth hanesyddol ein gwlad.
Mae'n holi oes modd tynnu pobl at ei gilydd i siarad ac i fod yn gymuned unwaith eto, ynteu ai cymunedau digidol fel Ffrwti yw'r dyfodol?
Mewn ymateb, mae Ifan Morgan Jones yn rhybuddio rhag edrych yn ôl ar y cyfnod yma yn rhy hiraethus fel ryw oes aur a fu.
Hyd yn oed pan oedd Cymru ar ei mwyaf crefyddol, meddai, roedd canran uchel yn parhau i beidio â mynd i eglwys neu gapel.
Wedi'r cwbl, sut mae cael diwygiad os yw pawb yn mynd i'r capel yn barod?
Gwasanaethu diogi?
Sbwriel! yw pennawd blogiad diweddaraf yr Hen Rech Flin, ond canmoliaeth sydd ganddo, wrth longyfarch Cyngor Gwynedd am benderfynu lleihau pa mor aml y bydd biniau brwnt yn cael eu casglu.
I'r rhai sy'n cwyno, mae am ofyn pam ddiawl ddylai dalu i wasanaethu eich diogi chi?
Annheg yw disgwyl i drethdalwyr sy'n gwneud eu gorau i ailgylchu i sybsedeiddio pobl sy'n methu gweld yr angen i roi'r din bîns neu'r botel lefrith mewn biniau gwahanol.
Sut i lwyddo yng Nghymru
Mae hi braidd yn gynnar yn y bore, felly falle ei bod yn well i mi aralleirio ambell ansoddair wrth gyfeirio at flog Daf Prys ar Golwg 360.
Ynddo, dywed wrthym mai'r hyn mae person yn gorfod ei wneud i fod yn llwyddiannus yng Nghymru yw bod yn fardd, neu fod mewn band 'isel ei safon' (ahem) o'r wythdegau neu'r nawdegau.
"'Na fe wedyn, meddai, rych chi bobman - ar y radio/teli/ar lwyfan, mewn gwyliau a chylchgronau ac yn gwneud 'voiceovers' hysbysebion ar Radio Ceredigion.
"Os dych chi ddim yn digwydd bod yn fardd neu'n gyn-aelod o fand 'isel ei safon', na phoener, mae dal cyfle i chi. Fe gewch chi fod yn academydd neu'n wleidydd."
Ond, a dyma fyrdwn ei lith, os ydych chi'n dyfeisio gemau cyfrifiadurol, chewch chi ddim math o sylw na chanmoliaeth.
Er gwaethaf llwyddiant ysgubol y gêm Enaid Coll, does dim siw na miw amdano yn unlle, ac mae Daf yn galw am sefydlu cystadleuaeth yn yr Eisteddfod a chael gwersi creu gemau cyfrifiadurol yn yr ysgolion, gan ddweud y gallai Cymru fod ar flaen y gad mewn maes fel hyn.
Yn ôl Daf, does dim angen hyd yn oed meddwl am y peth, mae'n amlwg yn syniad da - ac mae jyst am fynd i ffeindio bardd i ddweud hynny fel bod pawb yn gwrando.
Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.