Gŵyl y Gelli a'r BBC: Partneriaeth

  • Cyhoeddwyd
Gwyl y Gelli
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y BBC yn darlledu o'r Ŵyl ar deledu, radio a phlatfformau digidol

Mae'r BBC a Gŵyl y Gelli wedi cyhoeddi partneriaeth newydd am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau yn ystod yr Ŵyl eleni ar Fai 22.

Bydd y bartneriaeth yn golygu y bydd gweithgareddau'r ŵyl yn cael eu darlledu ar draws holl gyfryngau'r BBC - radio, teledu ac ar-lein.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni bydd The One Show yn darlledu'n fyw o'r Gelli Gandryll, ac fe fydd gorsafoedd radio BBC 2, 3, 4, 6 Music, ynghyd â Radio Cymru a Radio Wales, yn rhoi sylw i'r digwyddiadau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Tony Hall: "Dyma'r ymrwymiad cryfaf i Ŵyl y Gelli i ni wneud erioed.

"Bydd ein sylw i'r Ŵyl eleni yn dangos ein huchelgais i uno sylw i'r celfyddydau fel erioed o'r blaen ar draws teledu, radio a digidol.

"Fe fydd y BBC yn adlewyrchu gwir ysbryd yr Ŵyl i'r rhai sy'n methu bod yno - dyma i mi yw hanfod darlledu gwasanaeth cyhoeddus."

Dywedodd Peter Florence, Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli:

"Mae'r bartneriaeth yma'n mynd â sgyrsiau sy'n digwydd mewn cae yng Nghymru, ar draeth yn Cartagena neu mewn gardd yn Bangladesh, a'u trosglwyddo i ddarllenwyr a meddylwyr ymhob gwlad ar y ddaear.

"Mae'n gyfle neilltuol i fod yn lleol ac yn fyd-eang, yn fynwesol ac yn gyhoeddus, ac i rannu straeon a syniadau ar draws ffiniau.

"Fe fydd y BBC yn rhoi'r sedd orau wrth y bwrdd i bawb, ymhob man."