Nicole Reyes: cadarnhau ei dedfryd

  • Cyhoeddwyd
Nicole ReyesFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Nicole Reyes ei charcharu am 12 mlynedd am ladd Jorge Quintanilla Reyes

Mae'r llys apêl wedi cadarnhau dedfryd menyw o Gaerdydd gafodd ei charcharu am ladd ei gŵr yn y Weriniaeth Ddominicaidd am 12 mlynedd.

Cafodd Nicole Reyes, 39 ei dedfrydu ym mis Chwefror yn dilyn marwolaeth Jorge Quintanilla Reyes, 38, ym mis Gorffennaf 2012.

Roedd y llys yn y Weriniaeth Ddominicaidd wedi clywed fod Mr Reyes wedi ei daro o'i feic gan y fam o Rymni, Caerdydd. Ond mae hi wastad wedi mynnu mai damwain oedd y cyfan.

Mae'n dweud iddi daro ei gŵr yn ddamweiniol gyda'i char pan oedd o'n teithio wrth ei hochr ar ei feic modur. Roedd hi'n ceisio'n osgoi car oedd yn gyrru tuag ati wedi noson allan ym mis Gorffennaf 2012, meddai.

Mae cyfreithiwr Nicole Reyes sydd yn ei chynrychioli yn y wlad wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod nawr yn gweithio ar apêl ar gyfer y goruchaf lys.

Mi symudodd Ms Reyes i'r Caribî yn 2004 ac yno y gwnaeth hi gyfarfod ei gŵr.