Brigâd dân yn streicio eto dros newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Injanau tân
Disgrifiad o’r llun,
Mae diffoddwyr tân yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus dros y dyddiau nesaf

Mae diffoddwyr yn streicio dros y tridiau nesaf mewn protest ynghylch cynlluniau'r llywodraeth i newid eu hamodau gwaith.

Hon yw'r diweddaraf mewn cyfres o streiciau sydd wedi cael eu cynnal ers mis Medi 2013, wrth i'r anghydfod barhau.

Mae Undeb y Diffoddwyr Tân yn dadlau nad yw'n deg disgwyl i'w haelodau gyfrannu mwy tuag at eu pensiynau a bod angen rhoi ystyriaeth i'r ffaith bod llawer yn gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd natur y gwaith.

Ond mae llywodraeth San Steffan yn mynnu bod y cynnig yn un o'r rhai mwyaf hael o fewn y sector gyhoeddus.

Angen bod yn ofalus

Mi fydd diffoddwyr yn streicio brynhawn ddydd Gwener rhwng 12:00 a 17:00, rhwng 14:00 a 02:00 ddydd Sadwrn / bore Sul a rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Sul.

Mae Brigâd Dân Gogledd Cymru'n galw ar bobl i gymryd gofal arbennig dros y penwythnos gan ei bod yn bosib na fyddan nhw'n gallu ymateb yn yr un modd a fyddai'n arferol.

Mae'r swyddog tan Simon Smith yn dweud fod angen i bobl gymryd gofal drwy:

  • Sicrhau eu bod yn berchen ar larwm tân sy'n gweithio;
  • Beidio yfed a choginio yr un pryd;
  • Gymryd gofal ar y ffyrdd gan na fydd y frigâd dân yn gallu eu cyrraedd mor gyflym ag arfer;
  • Fod yn ofalus iawn gyda silindrau nwy a thanau pan yn coginio y tu allan.

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Diffoddwyr Tân, Matt Wrack mae'r llywodraeth yn parhau i "gladdu ei ben yn y tywod" er gwaethaf tystiolaeth yr undeb ynghylch yr angen i "sicrhau cynllun pensiwn sy'n adlewyrchu galwedigaeth unigryw diffoddwyr tân".

'Bygwth dyfodol diffoddwyr'

Ychwanegodd Mr Wrack: "Roedd llawer o fewn y llywodraeth yn ddigon parod i roi clod i ddiffoddwyr yn ystod llifogydd y gaeaf, ond dyw'r geiriau'n golygu dim pan maen nhw'n parhau i anwybyddu'r materion sy'n bygwth dyfodol diffoddwyr a'u teuluoedd.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatrys yr anghydfod drwy fargeinio, ac yn barod i gyfarfod i drafod y ffordd ymlaen cyn gynted a bo modd."

Dywedodd yr undeb eu bod yn anhapus wedi i'r llywodraeth gynyddu'r gyfran mae diffoddwyr yn gorfod ei gyfrannu i'r pensiynau i 14.2% gan ddweud bod hyn yn "un o'r cyfraddau uchaf yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat".

'Bargen hael'

Mae'r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn dweud bod y streic ddiweddaraf yn "ddiangen ac yn difrodi perthynas y diffoddwyr gyda'r cyhoedd".

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r fargen sydd ar y bwrdd yn un o'r cynlluniau pensiwn fwyaf hael o fewn y sector gyhoeddus...

"Bydd bron i dri chwarter yn gweld dim cynnydd i'w oed pensiwn yn 2015.

"O dan y cynllun newydd bydd diffoddwr sy'n ennill £29,000 yn parhau i allu ymddeol wedi gyrfa lawn yn 60, gyda phensiwn o £19,000 y flwyddyn, sy'n codi i £26,000 gyda phensiwn y wladwriaeth.

"Byddai pot pensiwn cyfatebol yn y sector breifat werth dros hanner miliwn o bunnoedd a byddai raid i ddiffoddwyr gyfrannu ddwywaith cymaint."