Noson i gofio Dafydd Rowlands
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd dathliad o fywyd a gwaith y bardd a'r llenor Dafydd Rowlands ei gynnal yn ei dref enedigol nos Wener.
Cafodd Mr Rowlands ei eni a'i fagu ym Mhontardawe, yng Nghwm Tawe, ac fe fydd y noson er cof amdano yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydol y dref.
Roedd Mr Rowlands yn adnabyddus yn bennaf am ei lwyddiant fel bardd ac fel awdur y rhaglen deledu boblogaidd Licris Olsorts.
Bu hefyd yn Archdderwydd am gyfnod o dair blynedd, ac roedd yn cael ei gofio am iddo gyflawni'r gwaith gyda'i hiwmor nodweddiadol.
Y ddwbl: Camp unigryw
Fe ddechreuodd Mr Rowlands ei yrfa fel gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Mrynaman cyn dechrau dysgu mewn ysgol ym Morgannwg ac yna yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Fe enillodd y goron am y tro cyntaf yn Eisteddfod y Fflint yn 1969 am ei gerdd Cwestiynau fy Mab.
Dair blynedd yn ddiweddarach fe efelychodd y gamp, yn Eisteddfod yr Hwlffordd, am ei bryddest Dadeni, gan gipio'r Fedal Ryddiaith am ei gyfrol Ysgrifau'r Hanner Bardd hefyd.
Fe yw'r unig berson hyd heddiw i fod wedi ennill y ddwy gystadleuaeth yn yr un Eisteddfod.
Hel atgofion
Ysgrifennodd Mae Theomemphus yn Hen yn 1977, cerdd ar ffurf nofel, gwaith arbrofol sy'n cael ei ystyried i fod yn enghraifft brin o dorri tir newydd yn yr iaith Gymraeg.
Bu'n awdur llawn amser o 1983 ymlaen. Wedi hynny bu'n gweithio ar Licris Olsorts, yn ogystal â Phobl y Cwm.
Yn ystod y noson bu pobl yn darllen gwaith Mr Rowlands, eraill yn siarad am eu hatgofion personol ohono a bydd clipiau o'r rhaglenni y buodd yn gweithio arnyn nhw'n cael eu dangos.
Ymysg y cyfranwyr roedd Rhian Morgan, Meirion Evans a Dilwyn Jones.
Cafodd gwaith celf er cof amdano gan yr artist Tegwyn Jones ei werthu hefyd.