Dim digon o safleoedd diwydiannol yng Nghymru yn ôl RICS

  • Cyhoeddwyd
Ffatri geirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae cwmnïau cyfoes angen math arbennig o safle, yn ôl syrfewyr

Mae diffyg safleoedd addas yn golygu bod cwmnïau diwydiannol yn meddwl ddwywaith cyn dod i Gymru, yn ôl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Daw hyn wrth i adroddiad gan RICS ddangos galw mawr am eiddo masnachol.

Yn ôl llefarydd RICS yng Nghymru, Richard Baddley, mae hyn yn golygu prinder unedau addas yn ambell i ardal, yn cynnwys coridor yr A55 yn y gogledd.

Fe ddywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi yn yr ardal.

Meddai RICS, mae'r galw cynyddol ledled Prydain yn arwydd bod yr economi'n ffynnu eto - ac yn golygu y gallai rhent godi fwy na 5% o fewn blwyddyn.

Fe ddywedodd Mr Baddeley bod diddordeb brwd mewn safleoedd yn cynnwys Parc Gateway ar Stad Diwydiannol Llandegai ym Mangor, a Pharc Cybi ar Ynys Môn.

Fodd bynnag, meddai, gallai llywodraeth Cymru wneud mwy i wneud y gorau o'r potensial i hybu twf economaidd.

'Galw mawr'

"Mae galw mawr am safleoedd diwydiannol a gofod warws ar hyd coridor yr A55 ac mae 'na brinder safleoedd," ychwanegodd.

"Yn dilyn dirywiad Awdurdod Datblygu Cymru does 'na ddim safleoedd diwydiannol newydd wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal."

Fe groesawodd RICS benderfyniad llywodraeth Cymru i brynu cyn-salfe Hotpoint ym Modelwyddan er mwyn ei ddatblygu, ond fe rybuddiodd bod cwmnïau angen math arbennig o gyfleusterau.

"O'r cwmni lleia' i'r mwya' - mae pobl eisiau dod i Gymru ond does 'na ddim digon o ofod ar gael," meddai.

"Yn bennaf, gwneuthurwyr neu wasanaethwyr nwyddau sy'n cyflogi rhwng 20 a 30 o weithwyr. Mae diffyg cyfleuserau yn broblem fawr - does gan rai o'r hen safleoedd ddim digon o gyflenwad pŵer neu ddŵr."

Cynnig grantiau?

Fe rybuddiodd Mr Baddeley y dylid ystyried cynnig grantiau er mwyn cystadlu gydag ardaloedd eraill ym Mhrydain - mae rhai yn cynnig cymhelliad ariannol wedi ei noddi gan arian Ewropeaidd.

Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Fel mae RICS yn nodi, rydym ni'n buddsoddi mewn eiddo masnachol yng ngogledd Cymru - mae'r cyn safle Hotpoint ym Modelwyddyn yn un enghraifft.

"Yn ogystal, rydym wedi buddsoddi yn isadeiledd Parc Cybi, a Pharc Bryn Cegin ym Mangor er mwyn paratoi'r safleoedd i gael eu datblygu.

"Mae'n Grant Datblygu Eiddo ni yn cefnogi busnesau i greu rhagor o ofod ac rydym ar hyn o bryd yn chwilio am gwmnîau i wneud hyn yn Ardaloedd Menter Ynys Môn a Glannau Dyfrdwy."

Ffynhonnell y llun, Conygar Investment Company plc
Disgrifiad o’r llun,
Mae Parc Cybi ar Ynys Môn ymysg y safleoedd fydd yn cael eu datblygu