Adroddiad i ofal Veronica Teal yn cythruddo teulu
- Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw gafodd ei chamdrin yn llafar mewn cartref gofal wedi dweud wrth BBC Cymru fod canlyniadau ymchwiliad gwasanaethau cymdeithasol yn eu cythruddo.
Casgliad yr adroddiad, meddai teulu Veronica Teal, oedd bod yna "arferion gwael iawn" yng nghartref Bethshan yn Y Drenewydd, Powys.
Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cael atebion mewn gwirionedd.
Mi roddodd teulu Veronica Teal gamera cyfrinachol yn ystafell ei mam 73 oed yn y cartref nyrsio.
Roedden nhw wedi dechrau pryderu am y ffordd yr oedd hi'n cael ei thrin. Roedd y ffilm yn dangos nad oedd y cartref yn cwrdd â'i hanghenion sylfaenol a'i bod hi'n cael ei chamdrin yn llafar.
Mae'r cartref gofal wedi dweud bod yr aelod o staff dan sylw wedi cael ei ddisgyblu ac yn derbyn hyfforddiant.
Camdrin
Dangosodd y camera bod un person oedd yn gofalu amdani yn ei herio am y ffaith nad oedd hi'n bwyta, yn ei galw'n "hunanol" ac yn gofyn iddi a oedd hi eisiau marw.
Doedd bag catheter Mrs Teal ddim wedi ei wagio am 26 awr. Roedd hyn wedi ei gadael hi mewn poen.
Cafodd casgliad ymchwiliad Amddiffyn Oedolion Bregus ei rannu gyda theulu Veronica Teal ddydd Gwener.
Mae un arbenigwr gofal wedi dweud bod angen ymchwiliad i ddiwylliant gwaith cartrefi gofal.
Diwylliant gwaith
Yn ôl Aled Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ymchwil yn dangos bod camdrin yn digwydd er bod 'na bolisiau yn eu lle i atal hyn.
"Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl mai digwyddiad ynysig oedd hyn. Dwi'n dweud hynny ar sail y ffaith bod nifer o adroddiadau ac ymchwiliadau i ofal pobl hŷn wedi eu cynnal yng Nghymru a Phrydain.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos fod hyn yn fater cyffredin iawn.
"Rydyn ni yn gwybod bod 'na bethau yn digwydd yn y gweithle, na fyddai pobl fel unigolion yn dioddef.
"Felly pam bod pobl, pan maen nhw'n gweithio mewn tîm neu gydag unigolion cryf, yn dioddef ymddygiad na fydden nhw fel arfer?
"Dwi'n credu bod angen ymchwilio i'r diwylliant gwaith yn y sector yma a bod angen mwy o graffu."
'Annerbyniol'
Dywedodd Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru Tina Donnelly bod angen ymchwiliad i sut y cafodd Mrs Teal ei thrin yn y cartref nyrsio.
"Mae dweud wrth glaf nad oes ganddyn nhw unrhyw amser ar gyfer claf neu gleifion ... yn annerbyniol, yn fy nhyb i.
"Mi fydden i yn gobeithio bod yna ymchwiliad llawn i'r ffordd mae'r cartref yn cael ei rheoli. Mi fydda i yn bersonol yn cysylltu gyda Chyngor Gofal Cymru i ofyn iddyn nhw edrych ar y mater.
"Pan mae rhywun mewn cartref gofal rydych chi'n disgwyl i'r gofal yna gael ei roi mewn ffordd urddasol ac sydd yn dangos eu bod nhw'n poeni ... Os oes na ganfyddiad bod yna ofal gwael, y rhai cyntaf rydych chi'n cysylltu ag e ydy tîm rheoli'r cartref gofal ac mae'n rhaid gwrando ar y pryderon yna."
Mewn datganiad dywedodd ymddiriedolwyr y cartref nyrsio eu bod yn edifar am y cam-drin geiriol.
Dywedodd y datganiad eu bod wedi darparu gofal gwych ar gyfer pobl hŷn am flynyddoedd a thrwy waith caled ac ymrwymiad y staff eu bod yn ymgyrraedd at roi gofal o safon uchel.
Straeon perthnasol
- 1 Mai 2014