Menyw 45 oed wedi marw mewn fflat yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i fenyw 45 oed farw yn ei fflat yng Nglan yr Afon, Caerdydd.
Cafodd yr heddlu ei galw i'r adeilad yng Ngerddi Despenser toc cyn 8 nos Fercher.
Mae'r heddlu yn ymchwilio ond does 'na ddim amgylchiadau amheus.
Doedd y fenyw ddim wedi ei gweld gan ei chymdogion ers peth amser.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae disgwyl i bost mortem gael ei gynnal.