Mwy'n cwyno am ofal mewn ysbytai yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd wedi bod yn nifer cwynion cleifion am y ffordd maen nhw'n cael triniaeth yn ysbytai Cymru.
Yn ôl ffigyrau ddaeth i law Plaid Cymru, rhwng 2009-10 a 2012-13 cynyddodd cwynion fwy na 40%.
Ers 2009 mi gafodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro 7,200 o gwynion a chafodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda. 5,665 o gwynion.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynnydd mewn cwynion yn dangos bod y cyhoedd yn barod i leisio barn am y Gwasanaeth Iechyd a hyn yn rhoi cyfle i'r byrddau iechyd "ddysgu" a "gweithredu" yn sgil profiadau cleifion meddai'r llywodraeth.
'Angen dysgu gwersi'
Trwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y cafodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC y wybodaeth.
Mae'r Aelod Cynulliad yn dweud fod y cynnydd yn fater o bryder.
Mae'r ffigyrau yn dangos:
- Cynnydd o 166 yn 2009-10 i 551 yn 2013-14 gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
- Cynnydd o 617 yn 2008-09 i 964 yn 2013-14 gydag Aneurin Bevan.
- Cynnydd o 1,330 yn 2011-12 i 1,577 yn 2013-14 gyda Betsi Cadwaladr.
- Cynnydd o 701 yn 2008-09 i 741 yn 2013 tan ddiwedd Chwefror gyda Hywel Dda.
- Cynnydd o 878 yn 2008-09 i 1,671 yn 2013 tan Mawrth 26, 2014 gyda Chaerdydd a'r Fro.
Dywedodd Elin Jones: "Mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu pan welir unrhyw fethiannau a bod camau'n cael eu cymryd i atal hynny rhag digwydd eto, a bod gwersi o'r profiadau yn cael eu pasio i'r holl fyrddau iechyd.
Profiad da i'r mwyafrif
"Rwyf yn derbyn yn llawn mai cyfran fechan o'r sawl sy'n cael eu trin yn y GIG yw nifer y cwynion, a bod y rhan fwyaf o'r staff yn gwneud gwaith ardderchog. Ond maent wedi eu llyffetheirio gan ddiffyg staff a gormod o waith papur."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mewn datganiad bod mwyafrif o bobl yn hapus gyda'r gofal maen nhw'n derbyn ac yn cael profiad positif.
"Ond pan nad yw pethau yn digwydd fel y dylen nhw, mae'n rhaid i'r GIG yng Nghymru wrando, dysgu a gweithredu," meddai llefarydd.
"Mae cynnydd mewn cwynion yn dangos bod y cyhoedd yn barod i ddweud ei barn am y gwasanaeth iechyd ac mae hyn yn rhoi cyfle i fyrddau iechyd weithredu a dysgu o'u profiadau."
Straeon perthnasol
- 10 Chwefror 2014
- 12 Chwefror 2013