Cymru mewn 'sefyllfa well' yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi lansio ei hymgyrch ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd gan ddadlau bod Cymru mewn sefyllfa well fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Does gan y blaid ddim ASE yng Nghymru ac mae polau piniwn yn awgrymu ei bod yn wynebu her i ennill un o'r pedair sedd sydd ar gael.
Canolbwynt yr ymgyrch yw aelodaeth Prydain yn yr UE. Mae'r Rhyddfrydwyr yn draddodiadol wedi bod ag agwedd bositif tuag at Ewrop, ac maen nhw'n dweud bod un swydd ymhob deg yn dibynnu ar fasnachu gyda'r UE.
Mae prif ymgeisydd y blaid wedi bod yn ymweld â chwmni argraffu Aryma yn Llandrindod ddydd Gwener.
Dywedodd Alec Dauncey: "Heblaw am Ukip, does na neb yn gwybod be mae'r pleidiau eraill yn ei gredu.
"Ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau i swyddi Cymru gael eu gwarchod yna mi ddylen nhw bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol.
Gadael Ewrop yn 'drychinebus'
Dywedodd y byddai cynllun Ukip i gymryd y DU allan o'r Undeb Ewropeaidd yn "drychinebus" ac yn gadael Cymru a'r DU "ar ben ei hun ac wedi ei gywasgu yn y byd".
"Gallwn ni ond herio problemau mawr y byd drwy aros yn Ewrop," meddai.
"Fel aelodau o'r UE gall ein heddluoedd weithio gyda'u cyd-weithwyr dramor i leihau faint o droseddwyr sy'n croesi ein ffiniau.
"Gyda'n gilydd, gall ein llywodraethau ymladd yn well yn erbyn newid hinsawdd hefyd."
Yn ol arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei phlaid yw'r unig un sydd wedi ymrwymo i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae'r neges yn glir: ydych chi 'Mewn neu Allan'?
"I'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig mae'r ateb yn glir: mae Prydain a Chymru yn well yn Ewrop. Ni yw unig blaid 'Mewn' Prydain.
"Buasai'n drychineb i'n heconomi ac i swyddi Cymreig pe bawn yn gadael yr UE.
"Mae mwy na un mewn deg o swyddi Cymreig yn dibynnu ar fasnachu gyda'r UE, pam ar y ddaear buasem ni am beryglu bywoliaeth pobl?"
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2014