Y Cymro Tony Pulis yw Rheolwr y Mis

  • Cyhoeddwyd
Pulis

Mae'r Cymro Tony Pulis wedi cael ei wobrwyo fel Rheolwr y Mis ar gyfer Ebrill.

Fe wnaeth rheolwr Crystal Palace lwyddo i guro pedair gêm allan o bump yn y mis dan sylw, oedd yn cynnwys buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Caerdydd.

Roedd Palace ail o'r gwaelod pan gymrodd Pulis yr awenau gan Ian Holloway fis Tachwedd, ond maen nhw bellach 11eg yn y tabl.

Hwn fydd y tro cyntaf iddyn nhw beidio colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair yn y tymor yn syth ar ôl cael dyrchafiad ers i'r gynghrair gael ei ail-strwythuro yn 1992.

Maen nhw hefyd wedi llwyddo i gael effaith ar y ras am y top, gan guro Chelsea o un gôl i ddim.

Bydd cyfle iddyn nhw adael eu marc eto yn erbyn dydd Llun yn erbyn Lerpwl, sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd.