Gŵyl Gomedi Machynlleth yw'r 'lle i fod'

  • Cyhoeddwyd
Stuart Lee
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y comedïwr poblogaidd Stewart Lee yn cymryd rhan mewn sioe am John Cage brynhawn Sadwrn

Mi fydd Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cael ei chynnal dros y tridiau nesaf.

Mae nifer o gomediwyr Cymreig yn rhan o'r ŵyl eto eleni yn ogystal â bandiau fydd yn chwarae ar lawntiau'r Plas gyda'r nos.

Nos Wener, yng Nghanolfan Owain Glyndŵr, mi fydd Steffan Alun yn cyflwyno awr o gomedi o'r enw Goreuon Standup Cymraeg.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Gŵyl Gomedi Machynlleth yw cyfnod gorau'r flwyddyn gomedi i mi.

"Cewri'r byd comedi yn cael cyfle i arbrofi, a lle gwych i gyflwyno comedi Cymraeg i gynulleidfa sy'n gwybod eu stwff. Mae'r gefnogaeth i'r perfformiadau ac i'r iaith yn anhygoel."

Mi fydd Steffan hefyd yn cymryd rhan yn "unig sioe ddwyieithog Cymru", os yw'r disgrifiad o Bring and Bilingual yn gywir.

Mae dwy sesiwn o'r sioe wedi cael eu trefnu - un ar gyfer nos Wener ac un arall nos Sadwrn.

'Mwngrel ieithyddol'

Cymro arall fydd i'w weld ym Mach dros y penwythnos yw Daniel Glyn, fydd yn rhannu jôcs sydd wedi eu teilwra ar gyfer "plant synhwyrol a rheini gwirion" fore Sadwrn.

Gyda'r nos mi fydd yn rhannu ei brofiadau fel hanner Cymro, hanner Sais o Gaerdydd - sefyllfa sy'n ei arwain i ddisgrifio ei hun fel "mwngrel ieithyddol a chymdeithasol".

"Dewch i weld y dyn sy'n cael ei alw'n Welshie gan y Saeson a'n ddysgwr gan y Cymry," meddai disgrifiad y sioe.

Hefyd ddydd Sadwrn bydd Llio Silyn a Rhian Morgan yn edrych ar y merched sydd wedi cyfrannu tuag at hanes Cymru.

Mae'r sioe yn cael ei ddisgrifio fel "hanes gywasgedig sy'n procio ac yn difyrru, yn dwysbigo ar brydiau ac yn troi hanes din dros ben, a hynny mewn arddull syml ac agos atoch".

'Y lle i fod'

Nos Sul bydd cyfle i weld y talent diweddaraf o fewn y byd comedi Cymraeg yn Ysgol Bro Ddyfi.

Yn ogystal â'r holl gomedi bydd sioeau theatr, cabaret a rhaglenni ar gyfer plant yn cael eu cynnal dros y penwythnos.

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Henry Widdicombe: "Ry'n ni'n hapus iawn i allu cyflwyno pobl sy'n hoff o gomedi i lawer o dalent newydd yn ogystal â chomediwyr mwy adnabyddus.

"Mae pobl nawr yn gwybod mai Machynlleth yw'r lle i fod ar ŵyl y banc mis Mai ar gyfer comedi gwych mewn lle sy'n unigryw o brydferth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol