Bachgen 12 oed yn ddieuog o dreisio
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 12 oed wedi ei gael yn ddieuog o dreisio cyd-ddisgybl mewn ysgol gynradd yng Nghonwy.
Roedd y bachgen, oedd yn 10 adeg y troseddau honedig, yn mynnu nad oedd y drosedd wedi cael ei chyflawni.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Wyddgrug, roedd yr erlyniad wedi honni bod y drosedd wedi ei chyflawni o ganlyniad i'r ffaith fod y bachgen wedi bod yn edrych ar bornograffi - rhywbeth arall roedd yn ei wadu.
Cafwyd y bachgen hefyd yn ddi-euog o ail gyhuddiad o annog y bachgen arall i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod athrawon wedi siarad gyda'r achwynydd oherwydd bod straeon o fewn yr ysgol ynglŷn â'i ymddygiad rhywiol.
Dyna pryd gafodd yr honiadau'n erbyn y diffynnydd eu gwneud, ac fe gafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu.
Roedd y diffynydd yn cydnabod ei fod wedi bod yn gas tuag at yr achwynydd yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu, ond roedd yn gwadu ei fod wedi ei fwlio.
Roedd hefyd yn gwadu ei fod wedi gofyn iddo am ryw, gan ddweud nad oedd unrhyw beth rhywiol erioed wedi digwydd rhyngddynt.