Ed Miliband yn ymweld â Chaerdydd
- Published
Mae Arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi canolbwyntio ar yr hyn mae'n alw yn argyfwng costau byw yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd, wrth i'r etholiadau Ewropeaidd agosáu.
Fe fu Mr Miliband yn cerdded o amgylch canol y brifddinas gyda Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru Owen Smith.
Roedd dwsinau o aelodau o'r blaid yno i'w cyfarch yn ogystal â rhai protestwyr, oedd yn tynnu sylw at lefelau tâl mewn rhannau o'r sector gyhoeddus a sefyllfa'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Wrth i Mr Miliband ymweld â siop goffi, fe wnaeth un ymgyrchydd alw arno i roi pwysau ar Carwyn Jones i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r gwasanaeth.
Anelu at ddwy sedd
Dywedodd Mr Miliband ei fod yn ffyddiog y gallai Llafur ennill dwy sedd yn yr Etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.
Un sedd allan o'r pedair yng Nghymru sy'n eiddo i Lafur ar hyn o bryd, a deilydd y sedd honno, Derek Vaughan, yw prif ymgeisydd y blaid ar gyfer mis Mai hefyd.
Jane Bryant sydd ail ar y rhestr.
Yn siarad am gostau byw, dywedodd Ed Miliband: "Y realiti i lawer iawn o bobl mewn gwaith yw eu bod yn darganfod bod eu swyddi yn ansicr, eu bod yn derbyn tâl isel a bod eu problemau ddim yn cael eu datrys gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.
"Dyna pam mae Llafur yn ymgyrchu ar faterion pob dydd o amgylch costau byw, rhewi prisiau egni, hybu tâl byw - sydd yn syniad pwysig iawn - a mynd i'r afael â chontractau dim oriau."
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd y byddai Carwyn Jones yn edrych ar ei gynnig i roi uchafswm ar faint o gynnydd mewn rhent all gael ei weithredu o fewn y sector breifat.
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn hoffi rhai o bolisïau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â thai, er enghraifft creu cofrestr o landlordiaid - roedd hyn yn fwy nag oedd yn cael ei wneud yn Lloegr i wella safonau yn y sector rhentu breifat, meddai.
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mai 2014
- Published
- 25 Ebrill 2014
- Published
- 18 Ebrill 2014