Arestio dwy ferch ar amheuaeth o gynllwynio i ladd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i ysgol yng Nghaerffili ddydd Iau lle cafodd dwy ferch ysgol eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i ladd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ysgol Uwchradd Cwmcarn am 11:54 yb oherwydd pryderon am ymddygiad dau ddisgybl.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad: "Fe aeth swyddogion i'r safle ac arestio merch 15 oed o Drecelyn a merch 14 oed o Rhisga.
"Mae'r ddwy wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal."
Yn ôl yr heddlu, cafodd y ferch 15 oed ei harestio ar amheuaeth o fygwth lladd, bod â arf llafnog yn ei meddiant ar dir yr ysgol a chynllwynio i lofruddio.
Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Mae'r BBC ar ddeall mai cynllwynio i ladd athro oedd y bwriad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili ac Ysgol Cwmcarn: "Gallwn gadarnhau bod pryderon wedi eu codi am ddau ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ddoe a bod staff a Heddlu Gwent wedi delio gyda rhain yn sydyn iawn.
"Mae cefnogaeth nawr ar gael i ddisgyblion a staff a hoffwn sicrhau rhieni bod yr holl gamau priodol wedi eu cymryd i ymateb yn effeithiol i'r sefyllfa.
"Rydyn ni nawr yn helpu'r heddlu gyda'r ymchwiliad."