Apêl am wybodaeth am dân yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tŷ wedi'r tan
Disgrifiad o’r llun,
Roedd difrod sylweddol yn y tŷ yn Y Rhath yng Nghaerdydd

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth am dân mewn tŷ yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ tua 04:15 fore Mercher, Ebrill 30.

Disgrifiad o’r llun,
Y tŷ yn Stryd Cecil

Roedd difrod mawr yn y tŷ ar Stryd Cecil, ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw am ddod o hyd i feiciwr gafodd ei weld ar Stryd Cecil yn mynd i gyfeiriad Broadway tua adeg y tân.

Llwyddodd y teulu oedd yn byw yn y tŷ i ddianc heb gael eu hanafu.

Dylai unrhywun â chamerâu CCTV yn yr ardal neu ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.